Modiwl 5: Archwilio Rôl a Chyfraniad Arloesi a Menter i Lwyddiant Busnes
About Lesson

Rôl Arloesi a Menter – Arloesi

 

Yn ôl y cwmni byd-eang McKinsey, diffiniad arloesi yw’r gallu i feddwl am, datblygu, cyflwyno a chynhyrchu ar raddfa nwyddau, gwasanaethau, prosesau a modelau busnes newydd ar gyfer cwsmeriaid.

Mae arloesi felly yn ymwneud â syniadau newydd. Mae’n broses greadigol sy’n ymwneud a:

Datblygu cynnyrch neu wasanaeth

Mae busnesau’n datblygu cynnyrch neu wasanaethau newydd yn gyson er mwyn cadw diddordeb cwsmeriaid ac er mwyn ymateb i anghenion cwsmeriaid a gweithgareddau cystadleuwyr.

Ffyrdd newydd o gynyddu effeithlonrwydd busnes neu wella proffidioldeb

Er bod datblygu nwydd neu wasanaeth yn ffordd eithaf amlwg o wella perfformiad cwmni, mae hefyd yn bosib gwella perfformiad cwmni trwy wella effeithlonrwydd. Er enghraifft, gall cwmni fuddsoddi mewn datblygu peiriannau newydd er mwyn cynhyrchu’n fwy cyflym neu gyda llai o wastraff.

Manteisio’n llwyddiannus ar syniad newydd

Mae syniadau newydd yn allweddol er mwyn diwallu anghenion cwsmeriaid. Wrth i’r byd newid mae anghenion a chwenychiadau cwsmeriaid yn newid ac mae’n rhaid i fusnesau ymateb. Meddyliwch yn ôl at modiwl 1. Yn y modiwl fe wnaethon ni sôn am Lion Laboratories yn Y Barri. Mae Lion Laboratories yn fusnes byd eang sydd wedi datblygu o gwmpas syniad arloesol y perchennog ar gyfer anadliedyddion. Maen nhw bellach yn gwerthu ar draws y byd.

Ychwanegu gwerth at gynnyrch, gwasanaethau neu farchnadoedd er mwyn i’r busnes sefyll allan o blith y cystadleuwyr.

Mae pob busnes yn ceisio ychwanegu gwerth at ei nwydd neu wasanaeth. Mae sefyll allan o’r gystadleuaeth yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eich busnes yn llwyddiannus. Gallwch ychwanegu gwerth trwy ddatblygu cyfleustra, brandio, ansawdd, dyluniad a phwynt gwerthu unigryw.

Enghraifft o ychwanegu gwerth ar sail cyfleustra yw pecynnau o lysiau neu ffrwythau sydd wedi’u torri’n ddarnau yn barod mewn archfarchnadoedd. Mae prynu ffrwythau wedi’u torri yn barod yn ddrutach na phrynu’r ffrwythau a llysiau cyfan ond mae’n fwy cyfleus i bobl brysur neu bobl sydd am fwyta yn y gwaith, gan olygu eu bod yn fodlon talu mwy am y nwydd.

Mae brand adnabyddus yn ychwanegu gwerth. Mae hyn yn dechneg bwysig yn y farchnad dillad er enghraifft gan fod y nwyddau mewn gwirionedd yn weddol debyg. Fodd bynnag mae pobl yn fodlon talu mwy i gael yr enw ‘cywir’ ar eu dillad.

Gall fusnesau ychwanegu gwerth trwy sicrhau ansawdd eu nwyddau a’u gwerthu am bris premiwm. Gellir ychwanegu gwarant dros gyfnod estynedig neu hyd yn oed cynnig gwarant bywyd.

Enghraifft o ychwanegu gwerth trwy ddylunio yw poteli Dŵr Tŷ Nant. Gan bod un dŵr pefriog yn debyg iawn i ddŵr pefriog eraill, yr unig ffordd y mae cwmnïau dŵr yn gallu apelio at bobl yw trwy eu brandio a’u dylunio. Mae Dŵr Tŷ Nant yn cael ei werthu mewn poteli gwydr glas deniadol sy’n hollol wahanol i’r gystadleuaeth. Yn fwy diweddar maent wedi dylunio potel arall ar gyfer eu brand newydd Tau. Dywed y cwmni: ‘Gyda’i labeli du a gwyn minimalaidd chic, cynlluniwyd TAU yn benodol ar gyfer allfeydd lle nad yw lliw o bosib yn briodol, ond mae ansawdd ac arddull yn parhau i fod yn hanfodol’.

Mae pwynt gwerthu unigryw yn gallu ychwanegu gwerth. Yn yr enghraifft uchod y pwynt gwerthu unigryw oedd y botel.

Pwyswch ar y llun i’w wneud yn fwy.

 

Ydych chi’n gallu meddwl am fwy o enghreifftiau o ychwanegu gwerth?