Modiwl 5: Archwilio Rôl a Chyfraniad Arloesi a Menter i Lwyddiant Busnes
About Lesson

Rôl Arloesi a Menter

Menter

Mae menter yn ymwneud a dod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu busnes drwy weithgareddau gwahanol

Meddwl yn greadigol

Mae angen bod yn greadigol er mwyn meddwl am syniadau busnes. Efallai na fydd y syniad cyntaf yn gweithio. Gwyliwch y fideo sy’n dangos Steve Dimmick o gwmni recriwtio Dimmicks yn trafod hyn:

Steve Dimmick

Gallu i feddwl yn ochrol

Mae’r gallu i feddwl yn ochrol h.y. dod at bynciau o safbwyntiau amgen yn gallu bod yn hanfodol. Yn ôl Albert Einstein, ‘gallwn ni ddim datrys problemau gan ddefnyddio’r un fath o feddwl a wnaeth eu creu nhw’. Felly, er mwyn datrys problemau mae angen meddwl mewn ffordd wahanol.

Meddwl awyr las

Mae llawer o sôn mewn busnesau modern am ‘feddwl awyr las’ lle mae pob math o syniad yn cael ei ystyried. Slogan cwmni Apple yw ‘think different’ ac mae’r cwmni’n cael ei ddefnyddio’n aml fel enghraifft o gwmni sy’n arddel meddwl awyr las. Ystyrir bod yr iPhone yn ganlyniad i feddwl ‘y tu allan i’r bocs’ gan Steve Jobs oedd eisiau datblygu ‘cyfrifiadur pwerus yn ei boced’

Hap a serendipedd

Ambell waith mae llwyddiant busnes yn digwydd ar hap ac o ganlyniad i fod yn y lle cywir ar yr amser cywir. Mae nifer o bobl fusnes gan gynnwys Richard Branson (sefydlydd Virgin) yn dweud bod lwc wedi chwarae rhan yn eu llwyddiant cynnar. Stori enwog am serendipedd yw stori darganfod creision ŷd.

Roedd y brodyr Kellogg wrthi’n coginio gwenith pan gawsant eu galw i ffwrdd. Pan y dychwelon nhw, roedd y gwenith wedi mynd yn hen. Penderfynon nhw rhoi’r grawn drwy’r rholeri beth bynnag, ac yn annisgwyl, ni ddaeth y grawn allan mewn haenau hir o does ond fel naddion bach tenau. Arweiniodd hyn at ffurfio Cwmni Battle Creek Toasted Corn Flake ym 1906, a ddaeth yn gwmni Kellogg yn y pen draw.

Greddf
Dywedir bod gan rai pobl reddf busnes a bod ganddynt y gallu i synhwyro beth mae’r farchnad ei angen ar unrhyw bwynt.

 


Ydych chi’n meddwl bod y fath beth a greddf busnes yn bodoli? Trafodwch eich safbwynt gyda ffrind neu’ch tiwtor.