Adnabod cystadleuwyr
Yn ogystal â darganfod mwy am eu cwsmeriaid, mae ymchwil y farchnad yn caniatáu i fusnesau ddysgu mwy am eu cystadleuwyr. Mae’n bosib bod gan fusnesau gystadleuwyr uniongyrchol sy’n gwneud yr un math o nwyddau neu wasanaeth ond hefyd gystadleuwyr anuniongyrchol nad ydynt yn cyflenwi’r un nwydd neu wasanaeth ond sy’n diwallu’r un angen. Er enghraifft, mae gan gwmni dŵr Tŷ Nant gystadleuwyr fel Brecon Carreg sydd hefyd yn gwerthu dŵr ffynnon. Ond maent hefyd yn cystadlu yn erbyn busnesau sy’n diwallu’r un angen – yr angen i dorri syched – sef gwneuthurwyr diodydd meddal eraill.
Mae gwybod beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud yn galluogi busnesau i addasu eu marchnata i ymateb i hynny. Daeth Tesco i wybod drwy ymchwil ei fod yn colli cwsmeriaid i Aldi oherwydd eu prisiau is, felly gwnaeth ddechrau hysbysebu ei fod yn cynnig amrywiaeth o nwyddau am yr un pris.
Ymatebodd Aldi yn eu hymgyrch marchnata hwythau.