Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Diffiniadau rheolaeth ac arweinyddiaeth
0/1
Swyddogaethau rheolaeth ac arweinyddiaeth
0/2
Modiwl 1: Diffiniadau a Swyddogaethau Rheolaeth
About Lesson

Diffiniadau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth

 
Yn aml ni wahaniaethir rhwng rheoli ac arwain. Gellir dweud eu bod yn rhannau o’r un rôl. Ond mae eraill yn dadlau bod nodweddion gwahanol gan reolwyr ac arweinwyr ac er bod rheolwyr yn arwain, mae gan arweinwyr nodweddion penodol arbennig.

Mae llawer iawn o ymchwil wedi cael ei wneud yn y maes a byddwn yn edrych ar waith nifer o ddamcaniaethwyr rheolaeth yn fras isod. Gallwch ymchwilio eich hun i ddarganfod mwy. Cliciwch ar yr arddull rheoli i weld disgrifiad byr.

Rheoli yn ôl Amcanion (MBO)
Mae Rheoli yn ôl Amcanion yn system rheoli a ddisgrifiwyd yn gyntaf gan Peter Drucker ac sydd wedi cael ei arddel yn eang ers hynny. Yn y bôn bydd rheolwyr yn ymchwilio i anghenion y busnes, yn gosod amcanion ar y cyd gyda gweithwyr ac yna yn monitro cynnydd gweithwyr tuag at yr amcanion hynny.
Rheolaeth Sefyllfaol ac Amodol

Yn y model Rheolaeth Sefyllfaol gan Blanchard a Hersey, cynigir nad oes un dull arweinyddiaeth sy’n well nag un arall ac y dylai arweinwyr addasu eu ffordd i weddu i sgiliau eu gweithwyr ac i’r sefyllfa.

Model Rheolaeth Sefyllfaol gan Blanchard a Hersey

Yn ei waith ar ei Theori Amodoldeb, mae Fiedler ar y llaw arall yn dweud bod arddull arweinyddiaeth yn sefydlog ac felly dylid dewis yr arweinydd gorau at y dasg dan sylw. Mae’n dadlau nad oes y fath beth ag arweinydd gwael, dim ond arweinydd yn y sefyllfa anghywir.

Model Fred Fiedler

Canolbwyntio ar Swyddogaethau a Gweithrediadau

Datblygwyd y syniad o ganolbwyntio ar swyddogaeth a gweithrediadau gan John Adair. Disgrifiodd Adair arweinyddiaeth drwy ddisgrifio beth mae arweinwyr yn gorfod ei wneud a’r gweithredoedd sydd yn rhaid iddynt eu cwblhau.

Roedd ei fodel yn cynnwys swyddogaethau sydd yn gorgyffwrdd fel hyn:

Model John Adair

Mae model Adair yn dweud bod yn rhaid ystyried anghenion tasg, tîm ac unigolion yn gyson ar unrhyw lefel rheolaeth.

Model Adair

Arweinyddiaeth Drafodol a Thrawsnewidiol

Mae arweinyddiaeth drafodol yn ymwneud â thasgau. Bydd yr arweinydd yn gosod tasgau a disgwyliadau perfformiad a bydd angen i’r gweithwyr gwrdd â’r amcanion hynny. Mae’n ddull arweinyddiaeth sy’n defnyddio gwobrau a chosbau i ysgogi a chyfarwyddo dilynwyr. Gall fod yn effeithiol gyda rhai gweithwyr ond mae’n annhebygol o wneud i weithwyr roi mwy o ymdrech nag sydd yn rhaid iddyn nhw.

Mae rheolwyr trawsnewidiol yn awyddus i ddatblygu eu staff a cheisio eu hysgogi i wneud mwy neu fynd ymhellach. Enghraifft o arweinydd trawsnewidiol yw Steve Jobs.

Gwyliwch Steve Jobs yn siarad am reoli pobl yn y fideo canlynol:

Y cysyniad o gontinwwm arweinyddiaeth ar gyfer ymddygiad rheoli


Cynigiodd Robert Tannenbaum a Warren H. Schmidt fodel o gontinwwm arweinyddiaeth yn 1958.

Ar un ochr gwelir arweinydd sy’n dod i’r holl benderfyniadau heb fewnbwn oddi wrth bobl eraill yn y tîm.

Ar y pen arall mae arweinydd democrataidd sy’n rhoi llawer o gyfrifoldeb i’r gweithwyr roi mewnbwn a chymryd rhan yn y broses benderfynu.

Rhwng y ddau begwn ceir disgrifiad o nifer o lefelau eraill o arweinyddiaeth ar gontinwwm – yn dibynnu ar faint o fewnbwn a geir gan y gweithwyr a’r rheolwr.

Y Continwwm Tannenbaum-Schmidt

Darllenwch am ragor o wahanol fathau o reolaeth yma: