About Lesson
Diwylliant busnes
Yn ôl yr Harvard Business Review, diwylliant busnes yw’r ffordd y mae pobl mewn cyfundrefn yn ymddwyn a’r agweddau a chredoau sy’n hysbysu’r ymddygiad hwnnw, h.y. ‘y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau fan hyn’. Mae diwylliant yn bwysig oherwydd mae’n effeithio ar sut mae pawb yn y busnes yn gwneud pethau. Dywedodd Tom Peters a Robert Waterman yn eu llyfr In Search of Excellence bod diwylliant cryf hyd yn oed yn gallu rhoi mantais gystadleuol i fusnes.