Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Diffiniadau rheolaeth ac arweinyddiaeth
0/1
Swyddogaethau rheolaeth ac arweinyddiaeth
0/2
Modiwl 1: Diffiniadau a Swyddogaethau Rheolaeth
About Lesson

Diwylliant

 

Mae nifer o nodweddion sy’n cyfrannu at ddiwylliant busnes.

Gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd / ethos busnes
Mae’r rhain yn sail i ddiwylliant busnes yn aml gan eu bod yn rhoi cyfeiriad ac yn rhoi ymdeimlad o sut fath o gwmni ydyw. Gweledigaeth yw deheuad y busnes – beth mae’r busnes eisiau ei gyflawni. Ei genhadaeth yw ei nodau ac amcanion.

Mae ethos neu werthoedd busnes yn ymwneud â beth mae’r busnes yn ei gredu sy’n bwysig.

Polisïau a gweithdrefnau
Mae gan rhai busnesau ffordd benodol o weithredu ac mae polisïau a gweithdrefnau’r busnes yn adlewyrchu hynny. Mewn cyfundrefnau llywodraeth leol er enghraifft, mae nifer o bolisïau ynglŷn â sut mae’n rhaid gweithredu.
Dulliau rheoli
Byddwn yn archwilio dulliau rheoli yn nes ymlaen yn yr uned. Mae’r dulliau hyn yn rhannol yn dod o bersonoliaeth y rheolwr ond efallai byddant yn cael eu heffeithio hefyd gan ddiwylliant y cwmni a’r math o drefniadaeth a geir ynddo. Mae dulliau rheoli yn aml yn mynd law yn llaw â diwylliant busnes. Efallai bydd gan gyfundrefn fel y fyddin, er enghraifft, sydd â diwylliant hierarchaidd, lawer mwy o bwyslais ar reolaeth.
Strwythur y gweithlu

Bydd y ffordd mae pobl wedi cael eu trefnu o fewn cyfundrefn yn cael effaith ar y diwylliant.

Fe wnaethom edrych ar strwythurau busnes yn y modiwl Archwilio Sut mae Busnesau wedi’u Trefnu a gallwch ddilyn y ddolen hon i atgoffa eich hun o’r gwahanol fathau o strwythurau a’u heffaith posib ar reolaeth.

Archwilio Sut Mae Busnesau Wedi’u Trefnu