Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Diffiniadau rheolaeth ac arweinyddiaeth
0/1
Swyddogaethau rheolaeth ac arweinyddiaeth
0/2
Modiwl 1: Diffiniadau a Swyddogaethau Rheolaeth
About Lesson

Swyddogaethau Rheoli

 

Mae nifer o swyddogaethau gan reolwyr.

Cynllunio

Mae’r agwedd hon yn ymwneud â gosod amcanion a strategaethau yn ogystal â chynllunio sut i’w diwallu. Er enghraifft, bydd rheolwr marchnata sy’n cynllunio ymgyrch farchnata newydd yn edrych ar amcanion yr ymgyrch, pwy fydd yn gwneud beth, erbyn pryd a gyda pha adnoddau.

Trefnu

Er mwyn diwallu’r cynlluniau bydd angen trefnu adnoddau ffisegol, deallusol ac adnoddau dynol. Felly mewn ymgyrch farchnata, er enghraifft, bydd angen cynllun ynglŷn â’r union beth sydd angen ei wneud, e.e. gosod amcanion, ymchwilio i’r farchnad darged, gosod cyllideb, dewis sianelau hysbysebu ac yn y blaen.

Cydlynu

Mae’n bwysig bod rheolwr yn gallu cydlynu gwaith y tîm gan sicrhau bod pawb yn gweithio fel tîm a bod yr amcanion yn cael eu diwallu.

Rheoli

Rheolwyr sydd â rheolaeth dros brosiectau a gweithgareddau. Drwy drefnu, cydlynu a monitro byddant yn gallu sicrhau bod y prosiect/gweithgaredd yn cael ei gwblhau i’r safon ddisgwyliedig.

Monitro

Mae monitro yn ymwneud â mesur cynnydd tuag at amcanion. Hynny yw, cadw llygad i weld os yw’r amcanion yn cael eu cyrraedd. Drwy fonitro gellir adnabod rhwystrau yn gynnar a rhoi cynlluniau amgen ar waith er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y nod.

Dirprwyo

Mae dirprwyo yn ymwneud â rhoi tasgau i bobl eraill. Bydd angen i reolwyr ddirprwyo er mwyn gwneud y gorau o’r adnoddau dynol sydd ganddynt a sicrhau bod yr amcanion yn cael eu cyrraedd.