Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Diffiniadau rheolaeth ac arweinyddiaeth
0/1
Swyddogaethau rheolaeth ac arweinyddiaeth
0/2
Modiwl 1: Diffiniadau a Swyddogaethau Rheolaeth
About Lesson

Arweinyddiaeth

 

Gellir dadlau bod nodweddion gwahanol gan arweinwyr.

Yn aml dywedir bod arweinwyr yn bobl sy’n gallu ysbrydoli pobl eraill i’w dilyn ac i wneud pethau. Mae ysbrydoliaeth yw gwneud i bobl deimlo eu bod eisiau gwneud rhywbeth ac efallai, yn fwy pwysig, eu bod yn gallu ei wneud. Maent yn symbylu a chymell pobl i fod eisiau cyflawni – mynd â nhw ar yr un daith.

Hefyd, mae ganddynt weledigaeth, hynny yw, maent yn gallu gweld i ba gyfeiriad y maen nhw eisiau i’r busnes fynd ac yn gallu gweld y llwybr gorau er mwyn cyrraedd y nod.

Maent yn medru dylanwadu ar randdeiliaid, sef y bobl sy’n cael eu heffeithio gan y busnes, i gredu yn yr hyn y maent am ei gyflawni.