Modiwl 3: Rheoli Adnoddau Dynol
About Lesson

Adnoddau Dynol

 

Adnoddau Dynol yw’r term sy’n cwmpasu popeth sy’n ymwneud â’r bobl sy’n gweithio mewn cwmni. Mae’r adnoddau dynol yn ffactor bwysig tu hwnt o lwyddiant (neu fethiant) busnesau, felly mae rheoli adnoddau dynol yn effeithiol yn hanfodol.

Adnoddau dynol fel ffactor cynhyrchu

Caiff llafur ei ystyried yn un o ffactorau cynhyrchu, yn ogystal â thir, cyfalaf a menter. Dyma’r 4 peth sy’n rhaid i unrhyw fusnes eu cael. Llafur yw’r gwaith y mae pobl yn ei wneud i greu nwyddau neu roi gwasanaeth, e.e. mae nyrs sy’n gweithio mewn ysbyty a pheiriannydd sy’n gweithio mewn ffatri yn enghreifftiau o lafur.

Dadansoddiad marchnad lafur

Mae dadansoddi’r farchnad lafur yn ymwneud ag edrych ar ffigurau sy’n cael eu casglu gan amryw o asiantaethau fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol (prif ffynhonnell ystadegaur Deyrnas Unedig) neur Llywodraeth. Mae’r data hyn yn galluogi’r adran adnodau dynol i adeiladu darlun o dueddiadau yn y farchnad lafur yn y wlad ac mae hynnyn ei dro yn gallu dylanwadu ar eu cynllunio. 

Munud i feddwl

 

Dilynwch y ddolen i ystadegau diweddaraf Trosolwg y Farchnad Lafur yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr wybodaeth ddiweddaraf.

Tua pha ganran o bobl sydd wedi’u cyflogi yng Nghymru yn chwarter olaf y data?

Sut mae cyfradd cyflogaeth Cymru yn cymharu â chyfradd cyflogaeth y DU yn gyffredinol?

Sut byddai’r wybodaeth hon o ddefnydd i adran adnoddau dynol busnes sydd am sefydlu yng Nghymru?

Rhagweld y galw am lafur
Rhan bwysig o waith adran adnoddau dynol yw rhagweld faint o weithwyr fydd eu hangen ar y cwmni yn y dyfodol. Maent felly yn cadw llygad barcud ar fesurau fel trosiant llafur ac yn cael eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau ynglŷn â chynlluniau at y dyfodol. Er enghraifft, mae cynlluniau fel ehangu gweithrediadau yn debygol o olygu y bydd angen mwy o staff i gyflawni’r gwaith a bydd angen gwybod ble, faint a pha fath o staff a phryd y bydd eu hangen.

Ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i gynnal dadansoddiadau o’r farchnad lafur

Rydym eisoes wedi sôn am Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fel ffynonellau gwybodaeth ond mae yna ffynonellau eraill y gall busnesau eu defnyddio ar gyfer y DU ac yn rhyngwladol.

Cliciwch ar enw’r sefydliad i ddilyn dolen i’w gwefan:

Effaith globaleiddio ar gynllunio adnoddau dynol
Pan fo busnesau yn gweithio ar raddfa fyd-eang, bydd angen ystyried gwahanol ddiwylliannau wrth gynllunio adnoddau dynol. Bydd hefyd angen bod yn ymwybodol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth recriwtio.

Efallai bydd pobl yn gweithio ar draws y byd. Mae technoleg yn golygu nad oes raid i bobl fod yn yr un wlad â’r busnes y maent yn gweithio iddo. Gall timoedd gael eu gwasgaru ar draws y byd a chyfathrebu drwy gyfrwng technolegau megis Zoom a Teams yn ogystal â chael mynediad at ddogfennaeth ac ati yn y cwmwl.