Modiwl 3: Rheoli Adnoddau Dynol
About Lesson

Cymhelliant

 

Cymhelliant yw awydd person i weithio. Mae hybu cymhelliant gweithwyr yn rhan bwysig o waith rheoli adnoddau dynol ac mae nifer o ffyrdd y gellir cymell gweithwyr. Byddwn yn edrych ar theorïau cymhelliant yn nes ymlaen yn yr uned.

Ymgysylltu â diwylliant busnes
Sonnir mewn busnes am y ‘bwlch’ diwylliannol – dyma’r gwahaniaeth rhwng y diwylliant busnes ym marn rheolwyr o’i gymharu â’r gwir ddiwylliant ar lawr y cwmni. Mae busnesau yn ceisio creu’r diwylliant y maen nhw am ei gael drwy ymgysylltiad gweithwyr, hyfforddiant, cyfleoedd i gymdeithasu, adeiladu tîm ac yn y blaen.
Boddhad gweithwyr
Mae boddhad gweithwyr yn gallu effeithio ar eu cymhelliant, eu habsenoldeb yn ogystal â pha mor hir y byddan nhw’n aros gyda chwmni, felly mae’n allweddol i adran adnoddau dynol sicrhau bod boddhad y bobl sy’n gweithio i’r cwmni mor uchel â phosib. Daw boddhad o’r swydd ei hun ond hefyd o fuddion eraill sy’n cael eu cynnig gan y busnes.

Munud i feddwl

Gwyliwch y fideo isod.

Gwnewch nodyn o rai o resymau pobl dros foddhad yn eu swydd.

 

Ar faint o’r rhain y gall adran adnoddau dynol gael dylanwad? Trafodwch gyda ffrind.