Modiwl 3: Rheoli Adnoddau Dynol
About Lesson

Yr angen am hyblygrwydd o ran y gweithlu

 

Mae hyblygrwydd y gweithlu yn galluogi busnesau i ymateb i sefyllfaoedd yn gynt, hynny yw, gallu busnes i ymateb os oes newidiadau yn y galw am eu nwyddau neu wasanaethau. Er enghraifft, mewn busnes sy’n ymwneud â thwristiaeth bydd angen cynllunio i gael mwy o weithwyr yn ystod cyfnodau prysur fel gwyliau ysgol. Mae nifer o ffyrdd y gall busnesau greu gweithlu hyblyg.

Gweithwyr craidd yn erbyn gweithwyr ymylol
Bydd gan rai busnesau weithwyr craidd a gweithwyr ymylol sy’n cynnal y gweithwyr craidd. Yn aml, bydd y gweithwyr ymylol yn rhai rhan-amser neu dros dro tra bydd y gweithwyr craidd yn debygol o fod yn weithwyr parhaol.
Gweithwyr llawn-amser yn erbyn gweithwyr rhan-amser
Mae gwahanol fathau o gontractau rhan-amser, e.e. gweithio llai o oriau yn yr wythnos neu rannu swydd. Gall gweithwyr rhan-amser fod yn bwysig i fusnes gan eu bod yn sicrhau bod staff ar gael pan nad oes angen staff llawn-amser.

Does dim nifer penodol o oriau sy’n gwneud rhywun yn weithiwr llawn-amser neu ran-amser ond fel arfer bydd gweithiwr llawn-amser yn gweithio dros 35 awr yr wythnos.

Is-gontractio
Ystyr is-gontractio yw rhoi cyfrifoldeb dros weithgaredd i fusnes arall. Er enghraifft, mae nifer o fusnesau yn is-gontractio gwaith glanhau eu hadeiladau/swyddfeydd i gwmnïau glanhau arbenigol. Mae hyn yn golygu nad oes gan y cwmni gyfrifoldeb dros gyflogi glanhawyr ond bydd angen talu’r cwmni glanhau am y gwaith.

Munud i feddwl

 

Dilynwch y ddolen isod:

O edrych ar yr wybodaeth, ydych chi’n meddwl bod is-gontractio glanhau adeiladau’r Senedd yn ddefnydd da o arian trethdalwyr?

 

Trafodwch gyda ffrind.

Contractau dim oriau

Mewn rhai busnesau bydd angen cael staff sy’n gallu gweithio’n hyblyg. Mae contractau dim oriau yn rhoi contract cyflogaeth i unigolion ond heb ddatgan y nifer o oriau gwaith yr wythnos. Bydd y busnes yn gofyn i rywun weithio yn ôl yr angen. Mae hyn yn gallu bod yn dda i weithwyr sydd eisiau hyblygrwydd ond ddim yn arbennig o dda os ydyn nhw angen sicrwydd o gyflog penodol bob wythnos/mis.

Noder: Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn ystyried deddf a fydd yn cyflwyno rheolau newydd yn ymwneud â chytundebau dim oriau

Staff dros dro

Mae staff dros dro yn bobl sy’n gweithio am gyfnod penodol, e.e. cyfnod mamolaeth neu ar amseroedd penodol o’r flwyddyn, e.e. y Nadolig. Un busnes sy’n dibynnu ar staff dros dro dros gyfnod y Nadolig yw’r Post Brenhinol.

Dyma enghraifft o’u recriwtio tymhorol:

Swyddi tymhorol yn y Post Brenhinol

Staff asiantaeth

Mae amryw o asiantaethau sy’n arbenigo mewn cyflenwi staff ar gyfer busnesau yn ôl yr angen. Mae llawer yn gyfarwydd ag athrawon cyflenwi ond ceir asiantaethau sydd hefyd yn cyflenwi staff ar gyfer byrddau iechyd, swyddfeydd, swyddi technoleg gwybodaeth a swyddi diwydiannol. Mae asiantaethau yn gallu bod yn ddefnyddiol i fusnesau i lenwi rolau dros-dro neu gael hyd i staff ar fyr rybudd.

 

Mae Addysg Seren yn enghraifft o asiantaeth staff ysgolion:

Addysg Seren