Modiwl 3: Rheoli Adnoddau Dynol
About Lesson

Camau rheoli i ymdrin â materion adnoddau dynol ar lefel weithredol

Trosiant llafur
Trosiant llafur yw’r nifer o bobl sy’n gadael busnes bob blwyddyn.

Gellir ei gyfrifo fel hyn:

Nifer y bobl sy’n gadael y busnes mewn blwyddyn   x 100
Cyfanswm nifer y bobl sydd wedi eu cyflogi

Mae rhywfaint o drosiant staff yn arferol wrth i bobl symud am wahanol resymau. Mae canran uchel yn dangos bod staff yn gadael yn rheolaidd a gall effeithio ar forâl gweithlu yn ogystal ag arwain at gostau recriwtio uwch.

Cynhyrchedd

Cynhyrchedd yw faint mae gweithwyr mewn cwmni neu hyd yn oed mewn gwlad yn ei gynhyrchu. Fel rhan o gynllunio adnoddau dynol, efallai bydd cwmni yn dadansoddi cynhyrchedd eu gweithlu er mwyn gweld os ydynt yn gallu gwneud gwelliannau.

Prinder sgiliau
Mae cynllun effeithiol yn chwilio am ddiffyg sgiliau mewn busnes. Unwaith bydd y diffyg wedi cael ei ddarganfod, bydd modd sicrhau bod y busnes yn canolbwyntio ar geisio recriwtio pobl gyda’r sgiliau perthnasol. Er enghraifft, yn aml mae prinder pobl sy’n siarad Cymraeg, yn enwedig mewn sectorau fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol a lletygarwch.
Straen yn y gweithle

Mae ystadegau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dangos mai straen, iselder neu bryder cysylltiedig â gwaith oedd achos colli 17 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn 2021/22.

 

Mae adrannau rheoli adnoddau dynol yn ceisio sicrhau nad oes gormodedd o straen yn y gweithle. Mewn rhai gweithleoedd, mae rhywfaint o straen yn rhan annatod o’r gwaith oherwydd ei natur ond mae angen sicrhau nad oes gormod o straen ar y gweithlu rhag i hynny gael effaith negyddol ar bresenoldeb gweithwyr neu gyfradd trosiant staff.

Munud i feddwl

 

Dilynwch y ddolen a darllenwch yr erthygl:

Faint o weithwyr sy’n dweud eu bod wedi dioddef straen?

Beth yw achosion y straen?

Beth yw effaith hyn ar y busnes yn eich barn chi?

Absenoldeb
Mae straen yn y gweithle yn un ffactor sy’n gallu arwain at absenoldeb o’r gwaith. Dyma faint o ddiwrnodau gwaith mae gweithwyr yn eu colli mewn cyfnod.

 

Maent yn cael eu mesur fel hyn:

Cyfanswm absenoldeb (oriau neu ddyddiau)   x 100
Cyfanswm oriau/dyddiau posib

Mae canran isel yn well i fusnesau gan fod canran uwch yn golygu nad yw pobl wrth eu gwaith. Os yw’r gyfradd yn rhy uchel, bydd yn rhaid i’r adran adnoddau dynol ddarganfod pam mae pobl yn colli diwrnodau gwaith.