Natur y gwaith a nodweddion angenrheidiol ar gyfer gwneud y rolau
Wrth gynllunio gweithlu, bydd rheolwr adnoddau dynol yn ystyried y math o bobl sydd eu hangen mewn swyddi. Mae sicrhau bod y busnes yn cael yr amrywiaeth gywir o bobl gyda’r rhinweddau cywir yn hollbwysig. Mae recriwtio yn gallu bod yn ddrud a gall gymryd amser, felly mae’n bwysig gwybod yn union beth sydd ei angen cyn mynd ati.
Lefel sgiliau
Mae sgiliau yn derm sy’n cwmpasu’r wybodaeth, y cymhwysedd a’r gallu i gyflawni tasgau. Bydd angen pennu pa sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu. Er enghraifft, bydd angen sgiliau siarad Cymraeg er mwyn gweithio i nifer o fusnesau yng Nghymru.
I weithio yn y Senedd, er enghraifft, mae’n rhaid i ymgeiswyr allu siarad rhywfaint o Gymraeg, yn dibynnu ar natur y rôl:
Profiad
Mae pobl yn magu profiad drwy weithio mewn maes penodol. Bydd busnesau yn aml am gynllunio i gael nifer penodol o weithwyr profiadol. Mae gweithwyr profiadol yn gallu mynd ati i gyflawni’r gwaith yn gyflym ac efallai bydd angen llai o hyfforddiant arnynt a byddant yn gallu mentora gweithwyr dibrofiad.
Lefel addysgol
Mae lefel addysgol yn rhywbeth arall sydd angen ystyriaeth fanwl. Gall lefel addysgol ddangos tueddfryd person i ddysgu ymhellach ac ar gyfer rhai rolau bydd angen bod wedi cyrraedd lefel addysg prifysgol neu bellach er mwyn gwneud y swydd, e.e. meddygon, darlithwyr, peirianwyr ac yn y blaen.
Gallu
Nid yw gallu yn ymwneud â lefel addysgol ond yn hytrach â dawn person i wneud y swydd. Gall dawn ddod drwy ennill cymwysterau, profiad neu dalent naturiol. Mae rhai busnesau yn profi gallu ymgeiswyr am swyddi drwy ddefnyddio profion gallu. Mae rhai prifysgolion yn gwneud yr un peth ar gyfer cyrsiau megis meddygaeth ac ieithoedd.