Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Technegau i fodloni anghenion sgiliau
0/1
Hyfforddiant a datblygiad
0/1
Arfarnu perfformiad
0/1
Modiwl 4: Ffactorau sy’n dylanwadu ar reolaeth, cymhelliant a pherfformiad y gweithlu a rheoli newid
About Lesson

Technegau i fodloni anghenion sgiliau

 

Mae angen i fusnesau sicrhau eu bod yn cael pobl gyda’r sgiliau cywir ar gyfer y mannau cywir. Gellir gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd.

Recriwtio

Recriwtio yw cael pobl i mewn i swyddi. Ond mae’n golygu mwy na hysbysebu swydd a chynnal cyfweliadau. Er mwyn sicrhau recriwtio llwyddiannus bydd busnesau fel arfer yn dilyn y camau canlynol:

Dadansoddi swydd: dadansoddi yn union beth yw’r swydd – y tasgau a’r gweithgareddau sy’n rhan ohoni a’r sgiliau sydd angen eu gwneud.

Yna byddant yn gallu ysgrifennu disgrifiad swydd ac yna disgrifiad o’r person delfrydol ar gyfer y swydd honno. Dim ond wedyn byddant yn hysbysebu’r swydd.

Munud i feddwl

 
Dilynwch y ddolen i safle swyddi Swyddle.

Cliciwch ar swydd a chymerwch olwg ar beth sy’n cael ei gynnwys mewn disgrifiad swydd a manyleb person.

Hysbysebu swydd
Gall busnesau hysbysebu yn fewnol neu yn allanol. Mae hysbysebu’n fewnol yn rhatach a chyflymach ond mae’r pwll o bobl sydd ar gael yn llai a does dim talent na sgiliau newydd yn dod i mewn i’r busnes.

Ar y llaw arall, mae recriwtio allanol yn ddrutach ond mae mwy o ddewis o bobl a allai ddod â sgiliau a syniadau newydd i mewn i’r busnes.

Dilynwch y ddolen i weld mwy gan Busnes Cymru ynglŷn â recriwtio:

Busnes Cymru – Recriwtio

Sgiliau/ailsgilio/hyfforddi
Wrth recriwtio gallwch geisio sicrhau eich bod yn recriwtio pobl sy’n meddu ar y sgiliau angenrheidiol yn barod neu gallwch eu hyfforddi yn y swydd. Byddwn yn edrych ar hyfforddiant yn nes ymlaen yn yr uned.
Darpariaeth gan gyflenwyr allanol
Os nad oes gan fusnes y sgiliau angenrheidiol ar gyfer swydd arbennig, yna mae’n bosibl edrych am berson neu gwmni y tu allan i’r busnes i gyflawni’r rôl. Er enghraifft, fe allai busnes edrych am bobl sy’n gweithio’n llawrydd, hynny yw, pobl sy’n gwneud gwaith ar gontract byr dymor, neu gellid cyflogi cwmni i wneud y gwaith, e.e. mae busnesau yn aml yn troi at gwmnïau arbenigol i greu a gofalu am eu gwefan.

Munud i feddwl

 

Dilynwch y ddolen i wefan cwmni Gweddnewid

Pa wasanaethau maen nhw’n eu cynnig i fusnesau?

 

Pam fyddai busnes am ddefnyddio cwmni fel hwn yn hytrach na chyflogi rhywun i wneud y gwaith?

Newid swyddi
Ffordd arall o wneud yn siŵr bod gennych y sgiliau cywir yn y llefydd cywir yw newid swyddi. Gallwch wneud i rôl weddu i berson yn hytrach na cheisio newid person i weddu i rôl.
Ailstrwythuro
Ambell waith mae busnesau angen gwneud newidiadau sy’n effeithio ar y gweithlu cyfan. Gall hyn ddigwydd oherwydd bod strwythur y gweithlu wedi dod yn aneffeithiol dros amser. Wrth ailstrwythuro bydd rheolwyr uwch yn penderfynu ar y rolau sydd eu hangen ac yna fe fyddant yn recriwtio pobl ar gyfer y swyddi. Fel arfer bydd recriwtio mewnol yn digwydd yn gyntaf cyn bod busnes yn mynd ati i recriwtio pobl newydd.