Hyfforddiant a datblygiad
Diben dadansoddi anghenion hyfforddi
Dulliau hyfforddiant
Mewnol/Allanol
Hyfforddiant mewnol yw dysgu gan rywun sydd yn y gwaith yn barod, gall fod yn gwrs hyfforddi neu yn gynllun mentora (gweler isod).
Mae hyfforddiant allanol yn cael ei ddarparu gan asiantaeth y tu allan i’r busnes fel darparwr hyfforddiant.
Wrth y gwaith
Mae hyfforddiant yn gallu digwydd wrth y gwaith neu i ffwrdd o’r gwaith. Mae wrth y gwaith yn golygu bod y gweithiwr yn derbyn hyfforddiant wrth wneud ei waith arferol, e.e. mentora neu hyfforddiant.
Mentora
Mentora yw pan fydd aelod mwy profiadol o’r cwmni yn hyfforddi neu’n cefnogi rhywun llai profiadol. Mae hyn yn aml yn cael ei ddefnyddio pan fydd person yn dechrau gyda’r busnes ond gall barhau drwy gydol cyfnod gwaith.
Cynllun annog/hyfforddiant
Mae anogaeth yn ddull hyfforddiant arbenigol sy’n ymwneud â thrafod a datblygu syniadau ar gyfer gwelliant. Nid yw anogwr yn dweud wrth bobl beth i’w wneud ond yn hytrach yn trafod er mwyn rhoi cynllun gwelliant ar waith.
I ffwrdd o’r gwaith
Prentisiaethau
Munud i feddwl
Gwyliwch y fideo isod.
Pa fath o hyfforddiant mae prentisiaid yn ei dderbyn?
Beth yw manteision prentisiaethau i’r prentis?