Sector Cyhoeddus
Fel rydym wedi gweld eisoes, mae sefydliadau sector cyhoeddus yn eiddo i’r Llywodraeth ac yn cael eu hariannu ganddi. Gall hynny fod yn llywodraeth ganolog y Deyrnas Unedig neu, yng Nghymru, llywodraeth ddatganoledig Cymru.
Oherwydd ei natur mae gan y sector cyhoeddus yn aml amcanion gwahanol i’r sector preifat , e.e. darparu gwasanaeth, cadw rheolaeth ar gostau, gwerth am arian, ansawdd gwasanaeth, bodloni safonau llywodraeth.
Darparu gwasanaeth
Yn aml mae’r sector cyhoeddus yno i sicrhau lles y bobl. Rydym eisoes wedi sôn am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Yng Nghymru caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Pwrpas y GIG yw darparu gwasanaeth iechyd a lles am ddim i bawb.
Cadw rheolaeth ar gostau
Gan fod y sector cyhoeddus yn cael ei ariannu gan y trethdalwr mae angen iddo sicrhau ei fod yn cadw rheolaeth ar gostau.
Gwerth am arian
Hefyd mae angen sicrhau gwerth am arian gan mai arian y trethdalwyr sy’n cael ei ddefnyddio. Yn aml bydd angen mynd drwy broses dendro wrth brynu nwyddau neu wasanaethau er mwyn sicrhau hyn.
Ansawdd gwasanaeth
Mae angen sicrhau bod y gwasanaeth o ansawdd uchel gan ei fod yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth.
Bodloni safonau Llywodraeth
Wrth ariannu’r sector cyhoeddus mae’r Llywodraeth yn disgwyl iddo gwrdd â safonau penodol. Er enghraifft mae angen i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ddilyn canllawiau’r Llywodraeth: ‘Maent yn nodi beth ddylai pobl Cymru ei ddisgwyl wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a pha ran sydd gan bawb i’w chwarae i hybu eu hiechyd a’u lles eu hunain.