Modiwl 2: Archwilio Sut Mae Busnesau Wedi’u Trefnu
About Lesson

Strwythur a Threfniadaeth – Adrannau Swyddogaethol

 

Wrth i gwmni dyfu mae ei reolaeth yn mynd yn fwy cymhleth. Gall fod yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad neu mewn sawl gwlad. Oherwydd hyn mae angen strwythur trefniadaethol ar fusnesau o’r fath. Yn aml bydd busnesau wedi’u trefnu yn ôl meysydd swyddogaethol/gweithrediadol.

Yr adrannau allai fod yn bresennol mewn cwmni yw:  

Adnoddau Dynol

Adnoddau dynol busnes yw ei bobl. Hynny yw, y gweithwyr. Cyfrifoldeb yr adran adnoddau dynol felly yw popeth sy’n ymwneud â chyflogaeth yr holl bobl sy’n gweithio yn y sefydliad. O recriwtio’r gweithwyr yn y lle cyntaf, eu hyfforddi, edrych ar ôl eu lles, mae popeth sy’n ymwneud â’r bobl o fewn sefydliad yn rhan o’r adran hon.

Cliciwch ar y ddolen i weld fideo o Bethan Emanuel, Rheolwr Adnoddau Dynol yn esbonio beth mae hi’n ei hoffi am weithio yn y maes hwn:

 

Adran Ymchwil a Datblygu

Dyma’r adran sy’n gyfrifol am ddatblygu nwyddau a gwasanaethau newydd yn ogystal â gwella rhai sy’n bodoli eisoes. Drwy ymchwilio i’r farchnad bydd gan fusnes wybodaeth dda ynglŷn â beth mae’r cwsmer ei angen a’i eisiau. Y gobaith wedyn yw creu cynnyrch neu wasanaeth a fydd yn ateb y galw hwnnw a fydd yn arwain at bobl yn prynu’r cynnyrch.

Gwerthiannau

Pwrpas yr adran hon yw gyrru gwerthiannau’r cwmni. Ambell waith bydd hyn yn cynnwys cysylltu’n uniongyrchol â’r cwsmer. Efallai eich bod chi wedi derbyn galwad neu e-bost o’r fath. Bydd yr adran yn ceisio creu perthynas gyda chwsmeriaid er mwyn hybu ail-brynu a theyrngarwch. Fe welwch yr adran weithiau fel adran ar y cyd gyda’r adran farchnata.

Marchnata
Dyma’r adran sy’n hybu nwyddau a gwasanaethau busnes ac yn sicrhau bod cwsmeriaid yn ymwybodol ohonynt. Mae marchnata’n cynnwys ymchwil marchnata, creu deunydd hyrwyddo, hysbysebu ac ati. Efallai y bydd hyn hefyd yn cynnwys presenoldeb cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae brandio’n rhan bwysig iawn o waith yr adran farchnata. Gwyliwch Guto Evans, perchennog cwmni dylunio Elfen, yn sôn am bwysigrwydd brandio:

Pwysigrwydd brandio

Pwrcasu

Er mwyn cynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaeth bydd yn rhaid i fusnesau brynu nwyddau. Fel arfer, yr adran bwrcasu fydd yn rheoli hyn. Trwy gael adran bwrcasu ganolog gall busnesau reoli gwariant a sicrhau eu bod yn cadw at eu cyllideb.

Cynhyrchu ac ansawdd

Os yw’r busnes yn y sector eilaidd fe fydd yn cynhyrchu nwyddau. Gall hyn ymwneud â chynhyrchu nwyddau o nwyddau crai neu droi cydrannau’n nwyddau gorffenedig. Yr adran gynhyrchu ac ansawdd fydd yn rheoli’r broses hon o’r prosesau cynhyrchu a chreu i’r prosesau sy’n sicrhau bod y cynnyrch yn addas i’w bwrpas ac o safon foddhaol.

Cyllid

Dyma’r adran sy’n gofalu am yr arian. Mae’n hanfodol bod busnes yn rheoli ei arian yn effeithiol. Nid yn unig mae angen sicrhau bod mwy o arian yn dod i mewn na sy’n mynd allan er mwyn gwneud elw ond mae’n rhaid hefyd gwneud yn siŵr bod yr arian yn dod i mewn ac allan o’r busnes ar yr adegau cywir. Gelwir hyn yn llif arian.

Gwasanaeth Cwsmeriaid

Rydych chi siŵr o fod wedi clywed y dywediad ‘mae’r cwsmer wastad yn gywir’. Mae’r adran hon yn ymwneud â sicrhau bod y cwsmer yn hapus gyda nwyddau neu wasanaethau’r busnes, a chynnig datrysiadau pan aiff pethau o’i le gyda’r cynnyrch neu wasanaeth hwnnw.

Technoleg Gwybodaeth

Prin fod busnesau heddiw yn gallu gweithredu heb dechnoleg gwybodaeth. Sicrhau bod yr offer a systemau technoleg y mae’r busnes yn eu defnyddio yn addas ac yn gweithio’n iawn yw cyfrifoldeb yr adran Technoleg Gwybodaeth.

Gweinyddu

Yr adran hon sy’n sicrhau bod prosesau‘r busnes yn digwydd yn brydlon ac yn drefnus.