Modiwl 2: Archwilio Sut Mae Busnesau Wedi’u Trefnu
About Lesson

Trefniadaeth Busnes

 

Mae busnesau yn gallu cael eu trefnu mewn ffyrdd gwahanol. Byddwn yn edrych ar 4 math o strwythur mewnol: 

Hierachaidd

Dyma drefniadaeth draddodiadol cwmni. Fe welwch y math yma o drefniadaeth yn eich ysgol neu goleg siŵr o fod. Yma ceir un person neu grŵp o bobl ar frig yr hierarchaeth ac yna nifer o haenau o bobl oddi tanynt.

Dyma enghraifft o system hierarchaidd. Yn aml bydd yr is-grwpiau wedi eu trefnu i mewn i adrannau gweithredol a byddwn yn edrych ar y rhain yn nes ymlaen.

 

Hierarchaidd

Meddyliwch am anfanteision a manteision y math hwn o drefniadaeth. Trafodwch gyda ffrind

Gwastad

Mae strwythur gwastad yn anelu at gael cyn lleied o lefelau â phosib rhwng yr haenau mewn hierarchaeth. Ceir y math hwn o hierarchaeth mewn cwmnïau sydd eisiau rhoi cyfrifoldeb i unigolion yn y cwmni heb fod angen cymaint o reolaeth linell.

 

Sefydliadau Gwastad

Oes manteision ac anfanteision i strwythur mwy gwastad?

Matrics

Mewn trefniadaeth matrics ceir cymysgedd o hierarchaeth a thimau cymysg yn seiliedig ar brosiectau. Ceir cydweithio rhwng adrannau gan rannu adnoddau a sgiliau.

 

Trefnidiaeth Matrics
Trefniadaeth Holocrataidd

Mae’r math hwn o drefniadaeth yn rhoi pwyslais ar unigolion ar draws y cwmni. Mae’n drefniadaeth wastad ac ni cheir pobl mewn awdurdod ar dop y gyfundrefn fel mewn hierarchaeth.  Mae gan unigolion lawer iawn o ymreolaeth yn y math hwn o drefniadaeth ac mae awdurdod yn cael ei wasgaru ar draws y sefydliad.

 

Sefydliad Holocrataidd

Ydych chi’n gallu meddwl am fanteision ac anfanteision y math hwn o fusnes?

Ym mha fath o fusnes fyddai’r math hwn o drefniadaeth yn gweithio?