Modiwl 2: Archwilio Sut Mae Busnesau Wedi’u Trefnu
About Lesson

Amcanion CAMPUS

 

Wrth geisio cwrdd â’u nodau ac amcanion, fe fydd busnesau yn gosod targedau. Pwrpas y targedau yw torri’r amcanion i lawr i mewn i rannau y mae’n bosib eu cyrraedd. Er enghraifft, mae ‘uchafu elw’ yn amcan eang ac nid yw’n rhoi syniad i’r gweithwyr sut i wneud hyn. Bydd angen targedau mwy penodol er mwyn cyrraedd y nod.

Efallai eich bod yn gyfarwydd ag amcanion ‘SMART’. Yn Gymraeg gallwn ddefnyddio’r acronym CAMPUS.

 

Campus
Cyraeddadwy

Mae angen bod y nod yn gyraeddadwy – hynny yw ei fod yn bosib ei gyflawni. Nid yw amcanion sy’n amhosib i’w cyflawni yn ddefnyddiol ac yn waeth na hynny, gallai arwain at ddiffyg cymhelliant ymysg gweithwyr.

Amserol

Mae angen i dargedau fod ag amseriad ynghlwm. Hynny yw ei fod yn amlwg erbyn pryd neu ym mha gyfnod amser mae angen cwblhau’r targed.

Mesuradwy

Mae angen bod y targed yn gallu cael ei fesur. Er enghraifft mae gwneud 20% yn fwy o elw na’r mis blaenorol yn darged sy’n gallu cael ei fesur.

Penodol

Mae angen i’r targed fod yn benodol – nid yn ben agored.

Uchelgeisiol

Os yw targed yn rhy hawdd i’w gyrraedd nid yw wir yn darged. Gan mai amcan targedau fel arfer yw  gwella sefyllfa neu symud pethau ymlaen mae angen i dargedau fod yn uchelgeisiol

Synhwyrol

Mae angen i’r targed fod yn synhwyrol – yn realistig felly nid yn rhy uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy.