About Lesson
Strwythur a threfniadaeth
Mewn busnes bach, y perchnogion fydd yn gwneud y penderfyniadau i gyd – bydd unig fasnachwr yn penderfynu beth fydd nod ac amcanion y busnes, beth sydd angen ei brynu, sut i farchnata, pwy i’w gyflogi ac ati. Mewn partneriaeth bydd y partneriaid yn gallu rhannu’r penderfyniadau hyn. Byddant efallai, fel rydym wedi gweld yn barod, yn dechrau arbenigo. Efallai bydd un partner yn cymryd y cyfrifoldeb dros farchnata tra bod un arall yn cymryd cyfrifoldeb dros y cyllid ac ati.
Fodd bynnag, wrth i gwmni fynd yn fwy bydd angen i’r busnes ddechrau rhoi strwythur a threfniadaeth mewn lle er mwyn sicrhau bod y busnes yn gallu cwrdd â’i nodau ac amcanion.