Busnesau Sector Preifat
Dywedir yn aml mai nod y sector preifat yw gwneud elw. Er bod hyn yn wir i raddau mae eu hamcanion yn gallu bod yn wahanol yn dibynnu ar y cwmni ond hefyd ble mae’r cwmni arni yn ei ddatblygiad. Efallai y bydd gan gwmni sydd ond newydd ei sefydlu nodau tra gwahanol i gwmni sydd wedi hen sefydlu ei hun yn y farchnad. Cliciwch ar y nodau i ddysgu mwy:
Gwneud elw
Elw yw’r wobr y mae buddsoddwyr yn ei ennill am y risg a’r arian y maent wedi rhoi i mewn i’r busnes.
Uchafu elw
Mae uchafu elw yn strategaeth o wneud yr elw uchaf posib felly bydd y busnes yn ceisio darganfod y lefel cynhyrchu sy’n arwain at y mwyaf o elw posib.
Adennill costau
Mae yna gostau i ddechrau busnes ac mewn rhai diwydiannau mae’r costau hyn yn enfawr. I nifer o fusnesau, yn enwedig yn eu blynyddoedd cyntaf, adennill costau yw eu nod.
Goroesi
Yn y DU, yn ôl ymchwil gan Fundsquire, rhwydwaith ariannu cychwynnol byd-eang, mae 20% o fusnesau bach yn methu yn eu blwyddyn gyntaf. Mae tua 60% o fusnesau bach yn methu o fewn y tair blynedd gyntaf. Felly, i nifer o fusnesau newydd eu prif nod yw goroesi. Mae hyn yn wir hefyd pan fydd busnesau’n mynd drwy gyfnod nad oeddent wedi ei ragweld. Er enghraifft yn ystod y cyfnod clo Covid roedd rhai busnesau yn ei gweld hi’n anodd oherwydd diffyg cwsmeriaid. Yn ystod y cyfnod hwnnw, eu hunig nod fyddai goroesi.
Tyfu
Nod arall sy’n bwysig yn y sector preifat yw twf ac i rai busnesau dyma yw’r nod pennaf. Mae tyfu’n gyflym yn gallu bod yn risg gan fod twf yn golygu buddsoddi yn y busnes, ond mae’n gallu bod yn strategaeth lwyddiannus oherwydd y gall arwain at fwy o elw yn y pen draw. Yn ôl prosiect Wales Fast Growth 50 – gwnaeth y 50 o gwmnïau a dyfodd gyflymaf greu £654m o drosiant yn 2021 a chyflogi bron i 4,000 o bobl.
Arwain y farchnad
Mae nifer o fanteision i fod yn arweinydd y farchnad. Er enghraifft bydd pobl yn fwy ymwybodol o’ch cynnyrch.
Meddyliwch am y marchnadoedd canlynol:
– Diodydd meddal ‘cola’
– Creision
– Paent
Pwy ydych chi’n credu yw arweinydd y farchnad?
Pam mae’n fuddiol bod yn arweinydd y farchnad?