Modiwl 3: Datblygu a Chynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Cymysgedd Farchnata Estynedig

Mae’r gymysgedd farchnata estynedig yn ychwanegu tri pheth arall at y model.

Mae pobl yn cynnwys pawb sy’n dod i gysylltiad â’ch cwsmer. Mewn gwasanaethau mae hyn yn gallu golygu llawer iawn o bobl ac mae’n rhaid i bob un o’r bobl hyn adlewyrchu brand y busnes. Dychmygwch eich bod yn rhedeg gwesty ac yn ei farchnata fel lle croesawgar, fel cartref oddi cartref. Nawr dychmygwch fod cwsmeriaid yn cael eu trin mewn ffordd negyddol gan staff y gwesty. A fyddai eich neges farchnata’n effeithiol?

Proses yw sut mae’r nwydd neu wasanaeth yn cael ei ddarparu. Mae’n ymwneud â thaith y cwsmer o ddarganfod y nwydd trwy ei brynu tan ei fod ym meddiant y cwsmer neu fod y cwsmer wedi defnyddio’r gwasanaeth.

Mewn cwmni sy’n gwerthu ar-lein er enghraifft, bydd y broses yn ymwneud â sut mae’r cwsmer yn dod o hyd i’r wefan, yn darganfod y nwydd ar y wefan, yn prynu a thalu am y nwydd, yn dewis sut i dderbyn y nwydd ac yn derbyn y nwydd.

Os yw’r broses yn methu ar unrhyw adeg, mae’n bosibl y bydd y cwsmer yn dewis busnes arall y tro nesaf.

Dyma ble mae’r nwydd yn cael ei brynu gan y cwsmer. Yn aml mae’r amgylchedd ffisegol hwn hefyd yn ffitio i mewn gyda’r brand.

Meddyliwch am y lleoedd rydych chi’n siopa. Ydy’r brandio’n amlwg yn yr amgylchedd ffisegol?