Modiwl 3: Datblygu a Chynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Pennu Marchnad Darged

 

Fel y nodwyd eisoes, mae ymchwil y farchnad yn eich galluogi i ddarganfod mwy am y farchnad a phennu’r farchnad darged ar gyfer eich nwydd a hefyd ar gyfer eich ymgyrch farchnata.

Y gorau oll y byddwch yn adnabod eich marchnad darged, y mwyaf y bydd modd i chi sicrhau bod eich neges yn ei chyrraedd.

Gall eich marchnad darged fod yn gwsmeriaid personol neu’n gwsmeriaid busnes. Er enghraifft, mae cwmni Admiral yn gwerthu yswiriant i gwsmeriaid  preifat fel chi a fi ond mae hefyd yn gwerthu yswiriant i fusnesau. Mae rhai busnesau’n gwerthu i fusnesau eraill yn unig e.e. cwmni adeiladu trenau.

Marchnad

Bydd y ffordd y mae busnesau’n marchnata tuag at farchnad busnes i fusnes (B2B) yn wahanol i sut mae’n gwerthu i gwsmeriaid personol (B2C)

Bydd busnesau eisiau gwybod cymaint â phosibl am eu cwsmeriaid delfrydol gan gynnwys beth yw eu diddordebau, pa raglenni teledu maen nhw’n eu gwylio, ble maen nhw’n siopa. Fel hyn, gallan nhw adeiladu proffil ffordd o fyw o’u cwsmer delfrydol. Yna gallan nhw fynd ati i greu ymgyrch farchnata fydd yn cyrraedd ac yn apelio at y cwsmeriaid penodol hynny.