Segmentu’r Farchnad
Mae segmentu’r farchnad yn ffordd y gall busnesau dorri eu marchnad i mewn i segmentau sydd â nodweddion gwahanol er mwyn eu targedu yn fwy effeithiol. Er enghraifft, fe all cwmnïau segmentu eu marchnad yn ôl rhyw. Enghraifft o hyn yw’r farchnad ar gyfer raseli. Mae cwmni Gillette yn gwerthu gwahanol raseli ar gyfer dynion a menywod sydd wedi’u dylunio, eu pecynnu a’u hyrwyddo mewn ffyrdd hollol wahanol.
Chwiliwch am Gillette Venus a Gillette Mach 3.
Pa un sydd wedi’i anelu at fenywod a pha un sydd wedi’i anelu at ddynion? Beth yw’r gwahaniaethau?
Gellir segmentu’r farchnad yn ôl oedran, diddordebau, incwm, addysg a nifer o nodweddion eraill. Y peth pwysig yw bod y segmentu yn rhannu’r cwsmeriaid i mewn i grwpiau penodol sydd â nodweddion tebyg.