Modiwl 5: Rhagolygon llif arian ac adennill costau
About Lesson

Astudiaeth achos: Adennill costau

Mae popty Asha Khan yng Nghaerfyrddin yn siop leol lwyddiannus sy’n gwerthu bara ffres a chacennau. Mae Asha yn ystyried dechrau coginio a gwerthu pasteiod fegan yn ei siop.

Dyma amcangyfrifon costau Asha ar gyfer y pasteiod:

Cynhwysion: £1.00

Costau cynhyrchu: £0.50

Costau sefydlog: £600

Mae Asha yn meddwl y bydd yn gallu gwerthu tua 300 pastai bob mis am £3.00 yr un.

Cyfrifwch faint o bastai sydd angen i Asha eu gwneud er mwyn adennill costau.

A fyddai’n gwneud synnwyr i Asha ddechrau cynhyrchu pasteiod? Pam?