Modiwl 5: Rhagolygon llif arian ac adennill costau
About Lesson

Manteision a chyfyngiadau rhagolygon llif arian

 

Mae cyfyngiadau amlwg i ragolygon llif arian. Yn ei hanfod, mae rhagolygon yn trafod beth mae rhywun yn ei feddwl fydd yn digwydd, nid beth sydd wirioneddol yn digwydd neu sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Gall y person sy’n creu’r rhagolwg fod yn rhy hael a dangos bod mwy o arian yn dod i mewn nag sy’n realistig

Mae’n gallu bod yn anodd rhagweld digwyddiadau allanol a mewnol ac maent yn gallu cael effaith negyddol (neu gadarnhaol) ar y llif arian. Er enghraifft, argyfyngau naturiol, damweiniau, salwch ac yn y blaen.