About Lesson
Nodi maes elw, maes colled a’r ffin ddiogelwch
Gallwn weld y maes elw a’r maes colled ar siart adennill costau. O dan y pwynt adennill costau fe fydd y busnes yn gwneud colled ond uwchben y pwynt adennill costau fe fydd yn gwneud elw.
Yr elw neu’r golled ar unrhyw bwynt yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm derbyniadau a’r cyfanswm costau.
Munud i feddwl
Os yw Rholiau Rhian yn gwerthu 800 brechdan y mis, faint o elw maen nhw’n ei wneud?
Y ffin ddiogelwch yw’r gwahaniaeth rhwng faint mae busnes yn ei werthu/gynhyrchu a’r nifer y mae angen iddynt ei werthu er mwyn adennill costau. Mae ffin ddiogelwch mwy o faint yn fwy diogel.

Mae Rholiau Rhian yn gwerthu 800 brechdan y mis felly gellir gweld bod y ffin ddiogelwch yn 200 uned