Modiwl 5: Rhagolygon llif arian ac adennill costau
About Lesson

Defnyddio rhagolygon llif arian

 

Mae busnesau yn defnyddio rhagolygon llif arian am nifer o resymau. Mae rhagolwg yn dangos a fydd digon o arian yn dod i mewn bob mis i dalu biliau ond yn fwy pwysig efallai, mae’n gallu dangos cyfnodau o wariant uchel neu dderbyniadau isel.

Mae rhagolygon llif arian yn gallu bod yn ddefnyddiol er mwyn cael benthyciadau gan eu bod yn dangos gallu’r busnes i ad-dalu ac mae’n galluogi busnesau i fonitro eu cynllunio. Hynny yw, gellir cymharu’r rhagolwg gyda’r sefyllfa go iawn a gweld pa mor gywir oedd y rhagolwg a’i mireinio erbyn y flwyddyn ganlynol. Yna gall y busnes osod targedau mwy realistig.