Modiwl 5: Rhagolygon llif arian ac adennill costau

Defnyddio siart adennill costau

 

Gallwch ddefnyddio siart adennill costau er mwyn cynllunio, monitro, cadw rheolaeth a gosod targedau. Mae siart adennill costau yn aml yn cael ei rhoi mewn cynllun busnes.

Yn achos Rholiau Rhian uchod, mae’r siart adennill costau yn ddefnyddiol i weld os yw’r nifer o frechdanau sydd angen eu gwerthu bob mis yn realistig.

Hefyd, mae modd gweld beth sy’n digwydd os yw’r pris yn cael ei godi neu ei ostwng.

Munud i feddwl

Cyfrifwch faint o frechdanau fyddai angen i Rholiau Rhian eu gwerthu bob mis petai’r pris yn cael ei godi i £4.00 y frechdan.