Modiwl 5: Rhagolygon llif arian ac adennill costau
About Lesson

Cyfrifo’r pwynt adennill costau – defnyddio cyfraniad

 

Gallwch gyfrifo’r pwynt adennill costau trwy ddefnyddio’r cyfraniad.

Cyfraniad = pris gwerthu – costau newidiol

Costau newidiol Rholiau Rhian

Pob brechdan (bara, menyn, cynhwysion, pecynnu) yw
90c y frechdan.

Pris gwerthu

Pob brechdan yw £3.50

Cyfraniad

£3.50 – £0.90 = £2.60

Felly mae gan bob brechdan gyfraniad o £2.60

Y cyfraniad yw’r hyn sydd ‘dros ben’ ar ôl i gostau newidiol pob uned gael eu talu. Mae’r cyfraniad yn mynd tuag at dalu’r costau sefydlog. Ar ôl i’r costau sefydlog i gyd gael eu talu, bydd y busnes wedi adennill ei gostau.

Costau sefydlog

Mae costau sefydlog Siop Rholiau Rhian yn £1,560 y mis.

Felly gallwn gyfrifo faint y byddai’r busnes angen gwerthu i adennill costau.

£1560 ÷ £2.60 = 600 uned

Felly bydd yn rhaid gwerthu 600 brechdan y mis cyn dechrau gwneud elw.