Modiwl 5: Rhagolygon llif arian ac adennill costau
About Lesson

Dadansoddiad adennill costau

 

Mae dadansoddiad adennill costau yn ffordd i fusnesau gyfrifo faint o nwyddau sydd angen ei werthu er mwyn talu costau.

Gwyliwch y fideo i gael trosolwg o bwrpas adennill costau.




Gallwch ddarllen mwy am ddadansoddiad adennill costau fan hyn:
Byddwn yn defnyddio siop frechdanau ‘Rholiau Rhian’ fel enghraifft trwy gydol yr adran hon er mwyn dangos y gwaith cyfrifo.

Dyma siop frechdanau Rholiau Rhian, siop fach ger adeilad prifysgol sy’n gwerthu brechdanau i fyfyrwyr yn bennaf.

Mae Rhian yn cyflogi un person i weithio gyda hi yn y siop yn ystod yr wythnos. 

Mae Rhian yn rhentu’r adeilad ar gyfer y busnes.

Mae hi hefyd wedi prynu fan fach gyda benthyciad banc er mwyn mynd at y cyfanwerthwr i brynu cynhwysion.

Mae hi hefyd yn prydlesu peiriant coffi proffesiynol. 

Er mwyn cynhyrchu rhagolwg adennill costau, mae angen i fusnes wybod beth yw cyfanswm ei gostau, cyfanswm ei dderbyniadau, a phris gwerthu ei nwyddau.