Modiwl 6: Datganiadau ariannol a gwerthuso perfformiad
About Lesson

Astudiaeth achos: Datganiadau incwm cynhwysfawr a datganiadau o’r sefyllfa ariannol

 

Edrychwch ar ddatganiad incwm cynhwysfawr a datganiad o’r sefyllfa ariannol S4C.


Datganiad Cyfun o Incwm Cynhwysfawr am y flwyddyn a derfynodd 31 Mawrth 2024

 

Mae’r Datganiad Cyfun o Incwm Cynhwysfawr, y Mantolenni, y Datganiadau o Newidiadau Mewn Ecwiti a’r Datganiad Llif Arian Cyfun yn dangos canlyniadau a pherfformiad S4C yn ogystal â’i grŵp masnachol o gwmnïau. O fewn y Datganiad Ariannol Cyfun hwn, cyfeirir at Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel S4C ac at gyfanswm y gwasanaeth cyhoeddus a’r gweithgareddau masnachol fel Grŵp S4C. Cyfeirir at yr asedau nad ydynt yng Nghronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y Gronfa Gyffredinol.


2023/24 2022/23
£000 £000
Incwm Cronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Throsiant y Gronfa Gyffredinol 90,754 90,933
Trosiant S4C 90,754 90,933
Costau’r gwasanaeth rhaglenni (85,886) (87,677)
Costau darlledu a dosbarthu (5,064) (4,092)
Costau uniongyrchol eraill (580) (930)
Colled gros (776) (1,766)
Costau gweithredu a gweinyddu (3,839) (3,225)
Colled weithredol (4,615) (4,991)
Gwerthiant buddsoddiadau 582
(4,615) (4,409)
Cynnydd / (colled) buddsoddiad 779 (970)
Incwm buddsoddiad 281 202
Llog net 565 254
Colled ar weithgareddau cyffredin cyn trethiant (2,990) (4,923)
Trethiant ar golled ar weithgareddau cyffredin 53
Colled ar ôl trethiant (2,990) (4,870)
Enillion actiwaraidd ar asedau a rhwymedigaethau’r cynllun pensiwn 100 100
Elw cynhwysfawr arall 100 100
Cyfanswm colled cynhwysfawr am y flwyddyn (2,890) (4,770)
Trosglwyddiad o Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus (incwm gohiriedig) 3,658 3,844
Cadwyd yn y Gronfa Gyffredinol 768 (926)

Mantolen Gyfun ar 31 Mawrth 2024


Ar 31/03/24 Ar 31/03/23
£000 £000 £000 £000
Asedau Sefydog
Asedau diriaethol 55 78
Buddsoddiadau 409 156
464 234
Asedau Cyfredol
Stoc 20,083 13,937
Dyledwyr – symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn 4,232 4,771
Dyledwyr – symiau sy’n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn 5,629 6,682
Buddsoddiadau 13,350 12,646
Arian yn y banc ac mewn llaw 11,592 19,529
54,886 57,565
Rhwymedigaethau Cyfredol
Credydwyr – symiau i’w talu o fewn blwyddyn (17,400) (15,419)
Credydwyr – symiau i’w talu ar ôl mwy na blwyddyn (2,321) (3,861)
Asedau Cyfredol Net 35,165 38,285
Cyfanswm Asedau llai Cyfanswm Rhwymedigaethau 35,629 38,519
Cronfeydd
Cronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus 15,790 19,448
Cronfa Gyffredinol 19,839 19,071
Cyfanswm Cronfeydd 35,629 38,519

Ceisiwch gyfrifo gymaint o gymarebau â phosib ar gyfer dwy flynedd.

Ym mha flwyddyn y perfformiodd S4C orau yn eich barn chi?