About Lesson
Mesur perfformiad
Defnyddir cymarebau i fesur perfformiad busnesau. Byddwn yn edrych ar gymarebau sy’n mesur proffidioldeb, hylifedd ac effeithlonrwydd. Gellir eu defnyddio i fesur perfformiad busnes o un flwyddyn i’r llall neu er mwyn mesur perfformiad busnes i gymharu â busnes arall tebyg.
Ceir crynodeb o’r cymarebau, eu pwrpas a sut i’w cyfrifo yn y tabl isod:
Cymhareb | Dull cyfrifo | Canlyniad | Defnydd |
Maint yr elw crynswth (gros) | Maint yr elw crynswth: (elw crynswth/refeniw) x 100 | Mae rhif uwch yn well | Yn dangos faint o refeniw busnes a drosir i elw crynswth |
Ychwanegiad | (elw crynswth/cost gwerthiannau) x 100 | Mae rhif uwch yn well | Yn dangos faint o elw mae busnes yn ei wneud fel canran o gost gwerthiannau |
Maint yr elw net | (elw net/refeniw) x 100 | Mae rhif uwch yn well | Yn dangos faint o elw net mae busnes yn ei wneud fel canran a pha mor dda mae busnes yn rheoli ei gostau gwerthiant |
Cyfradd adennill ar gyfalaf a ddefnyddiwyd | (elw net /cyfalaf a ddefnyddiwyd) x 100 | Mae rhif uwch yn well | Y maint o elw a wneir ar y cyfalaf sydd wedi ei fuddsoddi yn y busnes. Yn aml dywedir nad yw’n werth rhedeg y busnes os yw’r ffigwr hwn yn llai na beth y gellid ei ennill trwy fuddsoddi’r arian mewn banc er enghraifft. |
Cymhareb | Dull cyfrifo | Canlyniad | Defnydd |
Cymhareb gyfredol | asedau cyfredol rhwymedigaethau cyfredol |
Mae cymhareb rhwng 1 a 2 yn ddelfrydol | Yn dangos faint o asedau cyfredol sydd gan fusnes er mwyn talu rhwymedigaethau cyfredol. Yn syml – y gallu i dalu biliau. |
Cymhareb prawf asid | (asedau cyfredol – stoc) rhwymedigaethau cyfredol |
Dylai’r rhif fod dros 1 | Yn debyg i’r uchod ond yn tynnu gwerth stoc allan. Mae hyn oherwydd nid yw’r stoc wedi ei werthu eto ac mae dyledwyr ac arian mewn llaw yn gallu cael eu troi’n arian parod yn haws er mwyn talu dyledion. |
Cymhareb | Dull cyfrifo | Canlyniad | Defnydd |
Dyddiau casglu dyledwyr | Dyledwyr x 365 Trosiant |
Mae rhif is yn well | Dyma faint o ddyddiau mae’n ei gymryd i ddyledwyr dalu dyledion |
Dyddiau talu credydwyr | Credydwyr x 365 Cost gwerthiant |
Mae rhif is yn well | Dyma faint o ddyddiau mae’n ei gymryd i fusnes dalu ei gredydwyr |
Trosiant stoc | Stoc Gyfartalog x 365 Cost Gwerthiannau |
Mae rhif uwch yn well | Mae hyn yn mesur pa mor gyflym mae busnes yn gwerthu ei holl stoc |
Gallwch ddarllen mwy am gymarebau yma: