
Datganiad incwm cynhwysfawr
Mae datganiad incwm cynhwysfawr (a elwir hefyd yn gyfrif elw a cholled) yn cael ei ddefnyddio er mwyn dangos yr elw neu’r golled y mae’r busnes yn ei wneud dros gyfnod (blwyddyn fel arfer).
Dyma enghraifft – cliciwch ar y gwahanol elfennau i ddysgu mwy amdanynt:

Gwerthiant
Dyma’r incwm a ddaw i mewn i’r busnes o werthu nwyddau neu wasanaethau.
Cost gwerthiant
Costau uniongyrchol y gwerthiant, e.e. cost y stoc o nwyddau/nwyddau crai neu gost darparu’r gwasanaeth.
Cyfrifir cost y stoc fel hyn:
Stoc agoriadol + cost stoc a brynwyd – stoc cau
£20,000 + £40,000 – £15,000 = £45,000
Elw crynswth
Gellir cyfrifo elw crynswth (neu elw gros) drwy dynnu’r gost gwerthiant o’r incwm.
Incwm/trosiant – cost gwerthiant = Elw crynswth
£100,000 – £45,000 = £55,000
Wedyn bydd angen tynnu’r argostau allan o’r elw crynswth er mwyn cael ffigwr elw net.
Elw net
Yr elw net yw’r elw ar ôl i’r argostau gael eu talu. Argostau yw’r holl gostau anuniongyrchol fel post neu farchnata. Nid yw’r costau hyn yn codi’n uniongyrchol o gynhyrchu neu werthu’r nwydd neu wasanaeth.
Elw crynswth – Argostau = Elw net
£55,000 – £17,700 = £37,300
Sylwch nad yw treth wedi ei dalu eto. Mae treth yn cael ei dynnu o’r ffigwr elw net.
Gwyliwch y fideo am ragor o wybodaeth.