Datganiad o’r sefyllfa ariannol
Mae datganiad o’r sefyllfa ariannol (a elwir hefyd yn fantolen) yn giplun o sefyllfa ariannol busnes. Mae’n dangos yr asedau, rhwymedigaethau a chyfalaf sydd gan y busnes.
Gallwch weld enghraifft isod. Cliciwch ar y termau er mwyn gweld esboniad. Cofiwch y gall mantolenni gwahanol fathau o fusnesau edrych ychydig yn wahanol.

Asedau sefydlog
Asedau sy’n cael eu cadw am fwy na blwyddyn.
Asedau cyfredol
Asedau y mae disgwyl iddynt gael eu newid i arian parod o fewn blwyddyn.
Rhwymedigaethau cyfredol
Y dyledion sydd angen eu talu o fewn blwyddyn.
Asedau cyfredol net
Gelwir asedau cyfredol net hefyd yn gyfalaf gweithiol.
Gellir eu cyfrifo fel hyn:
asedau cyfredol net = asedau cyfredol – rhwymedigaethau cyfredol
Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol
Gellir cyfrifo’r ffigwr hwn fel hyn:
(asedau sefydlog + asedau cyfredol) – rhwymedigaethau cyfredol
Credydwyr – symiau sy’n daladwy ar ôl blwyddyn
Dyma rwymedigaethau tymor hir, hynny yw, mae’n rhaid eu talu dros gyfnod hirach na blwyddyn.
Asedau net
Asedau net = Cyfanswm asedau – cyfanswm rhwymedigaethau
Cyfalaf ac wrth gefn
Yr arian sydd wedi ei fuddsoddi yn y busnes.
Gwyliwch y fideo i weld rhagor o wybodaeth am ddatganiadau o’r sefyllfa ariannol
Addasiadau
Mae dibrisiant yn cael ei ddangos yn y datganiad o’r sefyllfa ariannol fel gostyngiad yng ngwerth yr asedau sefydlog. Fe fydd dibrisiant yn cael ei gyfrifo fel y dangoswyd yn gynharach yn yr uned a’i dynnu o werth yr asedau sefydlog bob blwyddyn.
Bydd addasiadau eraill yn cael eu gwneud i sicrhau bod y cyfrif yn gywir.