Dibrisiant
Fe weloch yn y datganiad incwm cynhwysfawr ei fod yn cynnwys ffigwr ar gyfer dibrisiant.
Mae dibrisiant yn ffordd o gyfrifo cost defnyddio asedau sefydlog dros flwyddyn. Mae angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod gwerth yr asedau yn gostwng wrth iddynt heneiddio a chael eu defnyddio. Fe’i dangosir fel cost ar y datganiad incwm cynhwysfawr – gallwch feddwl amdano fel ‘cost’ defnyddio ased sefydlog sy’n eiddo i chi.
Gellir cyfrifo dibrisiant mewn dwy ffordd. Does dim ots pa ffordd rydych chi’n ei defnyddio a dweud y gwir ond er mwyn sicrhau cysondeb, mae angen defnyddio’r un ffordd bob tro.
Dibrisiad llinell syth
Er mwyn cyfrifo dibrisiant gan ddefnyddio’r dull llinell syth bydd angen tynnu gwerth gweddillol yr ased (ei werth ar ddiwedd ei ‘fywyd’) o’r gost wreiddiol ac yna rhannu gyda’r nifer o flynyddoedd y mae disgwyl i’r ased gael ei ddefnyddio.
 Pris gwreiddiol yr ased – gwerth terfynol yr ased Â
Oes yr ased mewn blynyddoedd

Fe brynodd Rholiau Rhian fan am £20,000 ac mae disgwyl mai £2,000 fydd ei gwerth ar ôl 6 mlynedd.
Y dibrisiant felly yw
£20,000 – £2,000 = £3,000
6
Felly bydd gwerth y fan £3,000 yn llai bob blwyddyn a bydd cost o £3,000 yn ymddangos fel cost ar y datganiad incwm cynhwysfawr.
Dull balans gostyngol
Yr ail ffordd o gyfrifo dibrisiad yw defnyddio dull balans gostyngol.
Gyda’r dull hwn, mae’r gwerth yn gostwng gan ganran sefydlog bob blwyddyn.

Mae Rholiau Rhian yn penderfynu defnyddio dull balans gostyngol ar gyfradd o 20% y flwyddyn. Bydd gwerth y fan yn gostwng fel hyn:
Blwyddyn 0:
£20,000
Blwyddyn 1:
20% o £20,000 = £4,000
£20,000 – £4,000 =£16,000
Blwyddyn 2:
20% o £16,000 = £3,200
£16,000 – £3,200= £12,800
Blwyddyn 3:
20% o £12,800 = £2,560
£12,800 - £ 2,560 = £10,240
Ac yn y blaen tan ddiwedd oes y fan.
Addasiadau ar gyfer rhagdaliadau, croniadau
Mae’n rhaid dangos trafodion ariannol yn y cyfnod y maent yn digwydd felly weithiau bydd yn rhaid addasu’r ffigyrau er mwyn sicrhau eu bod yn dangos yn y cyfnod cywir.