Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Technegau i fodloni anghenion sgiliau
0/1
Hyfforddiant a datblygiad
0/1
Arfarnu perfformiad
0/1
Modiwl 4: Ffactorau sy’n dylanwadu ar reolaeth, cymhelliant a pherfformiad y gweithlu a rheoli newid
About Lesson

Arfarnu Perfformiad

Diben arfarnu perfformiad

 

Defnyddir arfarnu perfformiad er mwyn gosod targedau grŵp ac unigol ac i asesu perfformiad yn eu herbyn. Gellir rhoi adborth i weithwyr yn seiliedig ar hyn ac efallai y bydd yr arfarniad yn arwain at adnabod anghenion hyfforddiant.

Mae arfarnu perfformiad yn cael ei wneud er mwyn i fusnes geisio mesur rhinweddau, defnyddioldeb neu ‘werth’ y gweithwyr.

Gall gael ei ddefnyddio i weld pa weithwyr sy’n perfformio’n dda, pwy allai gael dyrchafiad, pwy allai elwa o hyfforddiant ac yn y blaen.

Hunanasesiad

Mewn hunanasesiad bydd y gweithwyr yn asesu eu perfformiad eu hunain, yn aml ar sail holiadur neu ar y cyd gyda’u rheolwyr.

Rheoli ar sail Amcanion

Yn y system Rheoli ar sail Amcanion (MBO) mae amcanion yn cael eu pennu ar y cyd gyda’r gweithiwr. Mae’n rhan o’r system bod rheolwyr wedyn yn monitro cynnydd tuag at yr amcanion hynny.

Graddfa raddiant

Mae graddfa raddiant yn galluogi i bobl raddio eu hunain neu gyfoedion yn seiliedig ar raddfa.

Defnyddir y rhain yn aml mewn systemau arfarnu. Ceir nifer o raddau gwahanol y gellir eu defnyddio yn dibynnu ar y math o gwestiwn.

 

Rhai o’r graddfeydd mwyaf adnabyddus yw:

Graddfa ddeuol

Graddfa syml sy’n defnyddio atebion cadarnhaol neu negyddol.

e.e

Oedd yr unigolyn yn bresennol ar gyfer pob cyfarfod tîm?

Oedd / Nac Oedd

Rhestr drefnol

Rhoi rhif sy’n cyfateb i’ch barn ar hyd continwwm.

e.e.

Graddiwch allu’r gweithiwr i arddangos sgiliau arwain,

o 1 (gwan) i 5 (ardderchog)

Graddfa Likert

Cytuno neu anghytuno â datganiad.

e.e.

Mae’r gweithiwr yn cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr

Anghytuno’n gryf – anghytuno – niwtral – cytuno – cytuno’n gryf

Yn aml bydd gofyn i bobl ddweud rhagor am eu hymatebion i’r cwestiynau, er mwyn cael esboniad mwy cynhwysfawr.

Arfarniad 360o

 

Mae arfarniad 360o yn arfarnu gweithiwr o sawl safbwynt. Er enghraifft, os yw’r arfarniad yn ymwneud â rheolwr, efallai y bydd gofyn iddo gael ei arfarnu gan y gweithwyr sy’n gweithio oddi tano, rheolwyr eraill sy’n gweithio ar yr un lefel ac uwch reolwyr sy’n gweithio ar lefel uwch. Ceir felly arfarniad cynhwysfawr o nifer o safbwyntiau gwahanol.

Mae arfarniad yn gallu bod yn fuddiol i unigolyn ac i fusnes. Ar gyfer unigolyn mae’n gallu dangos beth yw ei gryfderau ac amlygu ardaloedd y mae angen eu gwella. Fodd bynnag, os nad yw’n cael ei wneud mewn ffordd sensitif, gall arwain at anfodlonrwydd a diffyg cymhelliant.

I’r busnes, mae’n gallu tynnu sylw at anghenion hyfforddiant a’u sbarduno i gynllunio. Mae angen sicrhau bod gan bobl gyfle i arfarnu yn onest, felly mae arfarniadau yn aml yn cael eu cynnal yn ddienw.