Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Technegau i fodloni anghenion sgiliau
0/1
Hyfforddiant a datblygiad
0/1
Arfarnu perfformiad
0/1
Modiwl 4: Ffactorau sy’n dylanwadu ar reolaeth, cymhelliant a pherfformiad y gweithlu a rheoli newid
About Lesson

Damcaniaethau cymhelliant

 

Mae cael y gorau o’r gweithwyr mor bwysig i fusnesau felly does dim syndod bod cymhelliant wedi bod yn destun ymchwil dros nifer o flynyddoedd. Mae nifer o ddamcaniaethwyr wedi ceisio esbonio beth yw’r ffactorau sy’n cymell gweithwyr.

Taylor (1909)

 

Yn ôl Frederick Taylor, dim ond un peth sy’n cymell gweithwyr – arian. Yn ei lyfr The Principles of Scientific Management gwnaeth Taylor amlinellu ei syniadau. Yn ôl Taylor, os caiff gweithwyr y cyfle, byddant yn gwneud cyn lleied â phosib. Dywedodd Taylor ei bod yn bosib darganfod y ffordd orau, fwyaf effeithiol o wneud tasg. Unwaith bydd y ffordd orau wedi ei phennu, dylid dysgu pawb i wneud y dasg yn union felly. Dylai pobl gael eu talu am y gwaith maen nhw’n ei gyflawni – ‘A fair day’s pay for a fair day’s work’.

Maslow (1954)

 

Cynigiodd Abraham Maslow y syniad o hierarchaeth anghenion.

I ddechrau mae gan bobl anghenion sylfaenol ffisiolegol fel dŵr, bwyd a lloches. Maent yn cael eu cymell i sicrhau bod y pethau hyn ar gael. Unwaith bod yr anghenion hyn wedi eu bodloni, meddai Maslow, wedyn caiff pobl eu cymell gan geisio bodloni’r anghenion nesaf yn yr hierarchaeth, sef, yn ei fodel ef, cariad a pherthyn. Yn y modd yma caiff pobl eu cymell i geisio cael y peth nesaf yn yr hierarchaeth pan fydd lefel yn yr hierarchaeth wedi ei fodloni. Ar ben uchaf yr hierarchaeth mae hunanwireddiad, lle mae pobl wedi llwyddo i wireddu eu holl anghenion.

I fusnesau mae hierarchaeth Maslow yn cynnig y syniad bod angen i fusnesau ganolbwyntio ar bethau yn hytrach nag arian yn unig er mwyn i weithwyr gael eu cymell yn y gweithle.

Rhannau hierarchaeth Maslow

Gwyliwch y fideo ar gyfer esboniad o’r rhannau (Saesneg yn unig)

Herzberg (1950au)

 

Cynigiodd Frederick Herzberg syniad o gymhelliant yn nhermau dau ffactor. Galwodd y ffactorau yn ‘ffactorau hylendid’ a ‘cymhellwyr’. Dim ond cymhellwyr sy’n ysgogi pobl yn ôl Herzberg, felly mae angen i fusnesau ganolbwyntio ar ddarparu’r rhain. Ond mae ffactorau hylendid yn chwarae rôl oherwydd, er nad yw eu presenoldeb yn cymell, mae diffyg y ffactorau hylendid yn gallu gwneud pobl yn anfodlon ac felly arwain at ddiffyg cymhelliant.

Gallwch weld rhai o’r cymhellwyr a ffactorau hylendid y gwnaeth Herzberg eu cynnig isod:

Cymhellwyr a ffactorau hylendid y gwnaeth Herzberg eu cynnig

Mayo (1920au)

 

Fe gynhaliodd Elton Mayo gyfres o arbrofion mewn ffatri cwmni o’r enw Western Electric yn UDA. Roeddent yn ymchwilio i weld beth oedd yn cymell pobl trwy newid amodau gweithio, e.e. golau’r ystafell, gwres, egwyliau ac yn y blaen. Yn groes i’r disgwyl, fe wnaethon nhw ddarganfod nid yn unig bod cynhyrchedd yn codi pan roedden nhw’n newid newidyn er gwell, e.e. rhoi egwyl hirach, ond hefyd pan roedden nhw’n ei rhoi yn ôl fel yr oedd i ddechrau. Esboniodd Mayo hyn drwy ddweud bod y grŵp yn cael eu cymell, nid gan yr amodau gwaith ond gan y sylw yr oeddent yn ei dderbyn fel rhan o’r broses.

Galwyd hyn yn Effaith Hawthorne ar ôl enw’r ffatri, sef bod pobl yn addasu eu hymddygiad pan fyddant yn cael sylw.

Gwyliwch y fideo isod.

Munud i feddwl

Beth sy’n eich cymell chi?

 

Beth sy’n gwneud i chi fynd ati i weithio yn y coleg/ysgol?

Ydy eich profiad yn adlewyrchu gwaith y damcaniaethwyr? Trafodwch gyda ffrind.