Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Technegau i fodloni anghenion sgiliau
0/1
Hyfforddiant a datblygiad
0/1
Arfarnu perfformiad
0/1
Modiwl 4: Ffactorau sy’n dylanwadu ar reolaeth, cymhelliant a pherfformiad y gweithlu a rheoli newid
About Lesson

Rheoli Newid

 

Nid oes dim yn aros yr un peth a bydd pob busnes yn wynebu newidiadau. Yn aml, y busnesau mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sy’n gallu ymateb yn effeithiol.

Mae newid yn gallu cael effaith fawr ar fusnesau. Bydd newid cyflym yn ychwanegu at yr angen am ymchwil er mwyn i fusnesau geisio ymateb yn effeithiol. Mae’n bosib y bydd cylchredau oes cynnyrch yn byrhau wrth i flas cwsmeriaid newid ac wrth i dechnoleg olygu bod nwyddau newydd yn gallu dod i’r farchnad.

Ffactorau allanol sy’n dylanwadu ar newid
Mae nifer o ffactorau allanol sy’n effeithio ar newid, fel newid yn ymddygiad cwsmeriaid, newidiadau technolegol, newidiadau yn yr economi a digwyddiadau naturiol. Cliciwch ar yr enghreifftiau isod i gael gwybod mwy.
Newidiadau yn chwaeth neu ymddygiad cwsmeriaid

Mae newidiadau yn chwaeth cwsmeriaid yn gallu digwydd yn gyflym neu dros amser. Bydd hyn yn arwain at newidiadau yn y galw am wahanol nwyddau.

 

Er enghraifft, mae pobl ifanc y DU yn symud i ffwrdd oddi wrth yfed alcohol.

Munud i feddwl

 

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen yr erthygl:

Sut y gall gostyngiad yn y nifer o bobl sy’n yfed alcohol effeithio ar gwmnïau diodydd?

 

Newidiadau technolegol
Mae technoleg yn newid yn gyflym ac mae’n rhaid i fusnesau ymateb i hyn os ydynt am barhau i fod yn llwyddiannus a goroesi. Er enghraifft, mae newid anferth wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn y ffordd y mae pobl yn siopa. Mae siopa ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol ac mae busnesau sydd heb allu newid wedi wynebau heriau anferth. Hefyd, mae technoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI) wedi galluogi cwmnïau i greu amrywiaeth anferth o nwyddau a gwasanaethau, o robotiaid glanhau i ‘chatbots’, i geir sy’n gyrru eu hunain.

Munud i feddwl

Gwyliwch y fideo isod.

Beth fyddai wedi digwydd pe na bai Apple wedi gwneud y newidiadau hyn?

 

Ffactorau mewnol sy’n effeithio ar newid
Yn fewnol gall cynlluniau newydd, twf, strwythur y gweithlu a phenderfyniadau strategol oll arwain at newidiadau o fewn y busnes.
Gallwch ddysgu mwy am reoli newid fan hyn: