Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Technegau i fodloni anghenion sgiliau
0/1
Hyfforddiant a datblygiad
0/1
Arfarnu perfformiad
0/1
Modiwl 4: Ffactorau sy’n dylanwadu ar reolaeth, cymhelliant a pherfformiad y gweithlu a rheoli newid
About Lesson

Rhanddeiliaid sy’n effeithio ar newid

Perchnogion
Mae gan berchnogion syniadau ynglŷn â sut maen nhw am i’w busnes symud ymlaen. Mae hyn yn enwedig o wir mewn busnesau unig fasnachwr neu bartneriaeth.

Mewn cwmnïau mwy fel cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus, bydd yr arwahaniad perchnogaeth a rheolaeth yn golygu y bydd llai o ddylanwad gan berchnogion.

Rheolwyr
Mewn cwmnïau mwy o faint, mae’n debygol taw’r bwrdd cyfarwyddwyr a’r rheolwyr sy’n gwneud penderfyniadau strategol ynglŷn â newid yn y cwmni.
Cwsmeriaid

Gan fod busnesau yn cael eu gyrru gan alw cwsmeriaid am nwyddau, fe fydd eu patrymau prynu yn effeithio ar gynlluniau busnes. Bydd ymddygiad cwsmeriaid yn cael effaith ar newidiadau o fewn cwmni.

Rheolyddion

Mae rheolyddion yn gyrff cyhoeddus sydd â’r rôl o oruchwylio cwmnïau a sicrhau eu bod yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol.

Er enghraifft, OFCOM yw’r rheolydd ar gyfer y diwydiant cyfathrebu a’i rôl yw gwneud yn siŵr bod busnesau yn y diwydiant yn cynnig gwasanaeth da i’w cwsmeriaid.

 

Sefydliadau Ariannol

Os yw busnes yn benthyg arian gan sefydliad ariannol, yna bydd gan y sefydliad hwnnw ddiddordeb yn y ffordd y mae’r busnes yn cael ei redeg.

Llywodraeth
Mae penderfyniadau llywodraethau yn gallu gorfodi busnesau i wneud newidiadau yn y ffordd y maent yn ymddwyn. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i sut mae’n rhaid i fusnesau yng Nghymru drin sbwriel. Mae hyn yn gorfodi busnesau i roi systemau newydd ar waith er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

Ailgylchu yn y gweithle

Cyflogeion

Grŵp pwysig o bobl sy’n hybu newidiadau mewn busnesau yw’r gweithwyr eu hunain. Mae adborth gweithwyr yn gallu hybu newid uniongyrchol ond gall busnesau newid eu ffordd o weithio oherwydd ffactorau eraill sy’n ymwneud â gweithwyr, fel lefelau cynhyrchedd a throsiant staff.