Cynnwys y Cwrs
Uned 5: Egwyddorion Rheolaeth
Amcanion y modiwl
0/1
Technegau i fodloni anghenion sgiliau
0/1
Hyfforddiant a datblygiad
0/1
Arfarnu perfformiad
0/1
Modiwl 4: Ffactorau sy’n dylanwadu ar reolaeth, cymhelliant a pherfformiad y gweithlu a rheoli newid
About Lesson

Effaith cymhelliant ar berfformiad busnes

 

Mae busnesau yn ceisio rhoi’r theorïau hyn ar waith drwy sicrhau bod gweithwyr yn derbyn beth sy’n mynd i’w cymell.

Cymhelliant ariannol
Yn sicr mae ffactorau ariannol yn cymell pobl i ryw raddau felly mae busnesau yn ceisio defnyddio arian a thâl fel cymhelliant. Er enghraifft, mae rhai pobl yn cael cyflog sy’n dibynnu ar y nifer o oriau a weithiwyd, lle mae eraill yn cael eu talu yn ôl faint o waith y maen nhw’n ei wneud, e.e. mae gyrwyr ar gyfer cwmnïau fel Deliveroo yn cael eu talu yn ôl faint o fwyd sy’n cael ei ddosbarthu.
Cymhelliant anariannol
Fodd bynnag, mae bron pob un o’r damcaniaethwyr yn gytûn bod pethau heblaw arian yn cymell pobl, e.e. i Maslow mae cariad a pherthyn a pharch yn rhai o’r pethau hyn. Dyna pam mae busnesau hefyd yn cynnig buddion eraill er mwyn ceisio denu a chymell gweithwyr, megis cynlluniau iechyd, gwobrau staff ac yn y blaen.

Munud i feddwl

 

Dilynwch y ddolen i weld buddion gweithio i Gyngor Sir Gwynedd

Edrychwch ar y buddion y mae’r Cyngor yn eu cynnig i’w gweithwyr.

 

Nodwch os ydynt yn ariannol neu’n anariannol.