Brandio
Personoliaeth brand
Mae personoliaeth brand yn ymwneud â’r nodweddion dynol y mae’r brand yn awgrymu, e.e hapusrwydd, soffistigeiddrwydd ac yn y blaen.
Delwedd brand
Delwedd brand yw canfyddiadau cwsmeriaid ynglŷn â’ch brand – y ffordd y maent yn teimlo amdano. Er enghraifft, mae brand Rolex yn cael ei ystyried yn frand moethus. Mae’n gallu bod yn wahanol i hunaniaeth brand, sef y ffordd y mae’r cwmni eisiau i’r brand gael ei weld. Mae busnesau yn rheoli eu brand yn ofalus er mwyn ceisio sicrhau bod y ddelwedd brand yn cyfateb i’r hunaniaeth brand
Pwynt gwerthu unigryw (USP)
Mae pwynt gwerthu unigryw yn rhywbeth sy’n wahanol am nwydd neu wasanaeth, rhywbeth sy’n gwneud iddo sefyll allan ymysg gweddill y nwyddau a gwasanaethau.
Gwyliwch y clip fideo:
Beth yw Pwynt Gwerthu Unigryw Melin Tregwynt?
Goblygiadau maint y busnes o ran gweithgareddau marchnata
Bydd maint y busnes yn effeithio ar ei weithgareddau brandio a marchnata. Os yw’r busnes yn un mawr amlwladol fe fydd cwmpas ei farchnata yn fwy o lawer na busnes bach lleol. Bydd hefyd yn bwysig bod y brandio yn gweithio mewn nifer o ieithoedd neu’n gallu cael ei gyfieithu’n llwyddiannus.
Cyfyngiadau cyllidebol
Nid oes gan fusnesau gyllidebau diddiwedd felly mae’n rhaid iddynt ystyried faint o arian y byddant yn ei wario ar frandio a marchnata. Mae arian sy’n cael ei wario ar farchnata yn amlwg yn methu cael ei wario ar unrhyw weithgaredd busnes arall. Felly bydd yn rhaid i fusnesau wneud penderfyniadau cyllidebol er mwyn cwrdd â’u blaenoriaethau busnes.
Argaeledd staff arbenigol
Nid oes gan bob busnes staff arbenigol sy’n gallu creu hunaniaeth brand. O ganlyniad bydd busnesau yn gallu defnyddio arbenigwyr llawrydd neu gwmni dylunio er mwyn creu eu logos. Enghraifft o hyn yw logo Apple a ddyluniwyd gan Rob Janoff o gwmni marchnata Regis McKenna.