Modiwl 1: Cynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Mathau o farchnad – torfol/arbenigol

Farchnad

Cliciwch ar y blychau lliw i ddarllen y wybodaeth.

Marchnata torfol yw cynnig yr un fath o nwydd neu nwyddau tebyg iawn i’w gilydd i’r holl gwsmeriaid a’u marchnata mewn ffyrdd tebyg. Ystyriwch y farchnad ar gyfer creision. Fe fydd y rhain yn cael eu marchnata ar gyfer pawb er y bydd yna rywfaint o wahaniaeth yn digwydd er mwyn apelio at wahanol segmentau’r farchnad.

Mae marchnad arbenigol yn ymwneud â chynhyrchion sy’n apelio at segment bach o bobl. Maen nhw’n aml wedi eu dylunio yn arbennig ar gyfer anghenion penodol iawn. Er enghraifft, gellir ystyried y farchnad am fwydydd heb lactos yn farchnad arbenigol.