Modiwl 1: Cynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Nodau ac amcanion marchnata

 

Nodau ac amcanion marchnata yw ceisio sicrhau bod cwsmeriaid yn prynu nwydd y busnes yn hytrach na nwydd busnes arall. Er mwyn gwneud hyn maent yn gallu dilyn nifer o strategaethau. Cliciwch ar yr enghreifftiau isod i ddysgu mwy.

Deall anghenion a dyheadau cwsmeriaid
Er mwyn gwerthu eu nwyddau a gwasanaethau yn effeithiol mae angen i fusnesau ddeall anghenion a dyheadau eu cwsmeriaid. Mae anghenion cwsmeriaid yn sylfaenol ond gellir darparu ar gyfer eu chwantau neu chwenychiadau mewn nifer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, mae pob person angen bwyd ond mae beth maent yn bwyta yn ddewis sy’n dibynnu ar anghenion eraill. Er enghraifft, os ydych chi yn yr ysgol drwy’r dydd, bydd eich dewis o beth neu ble i fwyta yn cael ei effeithio gan hynny.

 


Pa anghenion/chwantau mae llefydd bwyd cyflym yn eu diwallu?

 

Datblygu cynnyrch newydd

Mae meithrin gwell dealltwriaeth o anghenion a chwenychiadau cwsmeriaid yn gallu arwain at ddatblygu cynhyrchion newydd sy’n bodloni ei chwant mewn ffordd well neu wahanol. Trwy wneud hyn mae busnesau yn gobeithio cadw diddordeb cwsmeriaid a denu cwsmeriaid newydd.

Gwella proffidioldeb

Gall marchnata llwyddiannus arwain at greu brand adnabyddus y bydd pobl yn fodlon talu mwy amdano felly bydd hynny’n gallu gwella proffidioldeb. Mae marchnata a gwerthu uniongyrchol hefyd yn gallu arwain at gadw mwy o’r elw.

Cynyddu cyfran o’r farchnad

Cyfran y farchnad yw faint o farchnad y mae un busnes yn berchen arno, hynny yw faint o ganran o’r cwsmeriaid yn y farchnad sy’n prynu wrth y busnes hwnnw. Wrth gynyddu cyfran y farchnad rydych yn denu mwy o gwsmeriaid draw o’r gystadleuaeth.

Arallgyfeirio

Efallai bydd ymchwil yn arwain busnes tuag at arallgyfeirio. Gall hwn ymwneud â thargedu marchnad wahanol gyda’r un nwydd neu ddatblygu nwydd newydd.

Cynyddu ymwybyddiaeth o’r brand a theyrngarwch

Rhan o beth mae marchnata’n gwneud yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r brand neu’r nwydd. Gellir gwneud hyn drwy hysbysebu neu ymgyrchoedd hyrwyddo eraill. Trwy wneud hyn hefyd mae brandiau yn ceisio cynyddu teyrngarwch er mwyn gwneud yn  siŵr bod pobl yn parhau i brynu eu nwyddau.