Modiwl 1: Cynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Dylanwadau allanol

 

Mae gweithgareddau marchnata hefyd yn cael eu heffeithio gan ffactorau y tu allan i’r busnes

Cymdeithasol

 

Mae tueddiadau ac agwedd pobl mewn cymdeithas yn rhywbeth y mae angen i fusnesau fod yn ymwybodol ohonynt wrth farchnata. Er enghraifft mae tuedd ddiweddar wedi bod i bobl fwyta llai o gig a throi at fwydydd fegan.

Mae nifer o gwmnïau bwyd wedi ymateb trwy ddatblygu a marchnata nwyddau seiliedig ar blanhigion fel rôl ‘selsig’ fegan Greggs a byrgyr McPlant McDonalds.

Greggs
McPlant

Technolegol

 

Mae newidiadau technolegol yn gallu effeithio ar allu busnesau i ddatblygu eu cynhyrchion neu ar ble a sut y maent yn gallu marchnata. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi dod â sianeli newydd ar gyfer hysbysebu yn ogystal ag apiau ar ffonau symudol a thabledi. Mae twf deallusrwydd artiffisial (AI) yn debygol o gael effaith enfawr ar sut y mae busnesau yn mynd ati i farchnata. Nid yn unig yn eu hysbysebu, ond hefyd sut y maen nhw’n cyfathrebu â’r cwsmer ac yn dehongli data ymchwil ac yn y blaen.

Economaidd

 

Fe fydd cyflwr yr economi yn gallu effeithio ar ymgyrchoedd a rhaglenni marchnata cwmnïau. Pan fydd yr economi yn llewyrchus efallai y bydd gan bobl fwy o arian i wario – bydd talu am ymgyrch farchnata felly yn llai o risg gan ei fod yn fwy tebygol y bydd pobl yn prynu’r nwyddau neu wasanaethau sy’n cael eu hysbysebu. Mewn cyfnod economaidd anodd efallai y bydd marchnata yn pwysleisio gwerth am arian.

Amgylcheddol

 

Mae busnesau yn ceisio ymateb i faterion amgylcheddol ac yn aml gwelir hyn yn eu marchnata. Maent yn aml yn ceisio pwysleisio ‘gwyrddni’ eu nwyddau. Fodd bynnag, mae ambell fusnes wedi ceisio gwneud i gwsmeriaid feddwl eu bod yn fwy gwyrdd nag yr ydynt mewn gwirionedd. Yn Saesneg gelwir hyn yn ‘greenwashing’, sef pan fydd cwmni yn ceisio awgrymu bod eu nwyddau yn fwy ecogyfeillgar nag y maent.

Ydych chi’n credu bod nwyddau cwmni olew yn gallu bod yn ecogyfeillgar?

Shell

Gwleidyddol

 

Mae blaenoriaethau busnesau o ran marchnata yn gallu cael eu heffeithio gan flaenoriaethau llywodraeth y dydd. Er enghraifft, yn 2008 daeth Cymru yn genedl masnach deg Gyntaf y byd ac mae felly yn hyrwyddo masnach deg ar draws y wlad.

Gwyliwch y fideo isod:

Cyfreithiol

 

Mae’r gyfraith yn gallu cael effaith ar sut a ble mae cwmnïau yn gallu hysbysebu. Ar gyfer alcohol er enghraifft, nid oes modd hysbysebu at bobl o dan 18, rhaid iddynt beidio â chynnwys person neu gymeriad sy’n debygol o gael ei efelychu gan bobl o dan 18 oed neu sy’n apelio’n gryf i bobl o dan 18 oed.

Hefyd rhaid iddynt beidio ag awgrymu y gall alcohol gyfrannu at boblogrwydd neu hyder unigolyn nac awgrymu y gall alcohol wella rhinweddau personol.

Moesegol

Mae cael eu gweld fel cwmni moesegol yn bwysig i rai busnesau ac mae eu marchnata yn pwysleisio hyn. Mae ymddwyn mewn ffordd foesegol yn golygu trin pobl a’r amgylchedd yn iawn. Mae cwmni Goodwash yn cynhyrchu nwyddau ymolchi moesegol. Gwyliwch y fideo i weld mwy am eu hethos:

Goodwash Philosophy

Ewch i wefan Jeniphers Coffi:

Jeniphers Coffi

 

Beth yw manteision y busnes?