Egwyddorion a phwrpas marchnata
Mae marchnata yn ymwneud â rhagweld, adnabod, ysgogi a bodloni galw sef faint o nwydd y mae person yn fodlon prynu ac yn gallu prynu ar unrhyw bris.
Rhagweld galw
Mae nifer o ffyrdd y gall busnes ragweld galw. Os yw’n fusnes sydd wedi’i sefydlu am gyfnod hir mae’n bosib edrych ar dueddiadau prynu cwsmeriaid yn y gorffennol ac o’r tueddiadau prynu hyn, rhagweld galw yn y dyfodol. Gellir gwneud ymchwil y farchnad er mwyn ceisio rhagweld galw. Gall hwn gynnwys ymchwil gynradd fel holiaduron ac yn y blaen neu ymchwil eilaidd sy’n defnyddio ymchwil sy’n bodoli’n barod. Er enghraifft mae archfarchnadoedd yn defnyddio ‘rhagolygu adwerthol’ er mwyn gwybod beth yw rhagolygon y tywydd yn y tymor hir a byr. Dyna sut mae offer a bwyd ar gyfer barbeciw yn barod ar silffoedd yr archfarchnadoedd pan fo’r tywydd yn addo bod yn braf.
Adnabod galw
Mae adnabod galw yn ymwneud â deall y galw sy’n bodoli’n barod. Efallai y bydd hyn yn ymwneud â gweld beth mae eich cystadleuwyr yn gwneud neu beth sy’n gwerthu’n dda.
Ysgogi galw
Mae busnesau yn gallu ysgogi galw drwy hysbysebu. Y gobaith yw y gallant berswadio cwsmeriaid fod angen y nwydd neu wasanaeth y maent yn cynnig ac felly creu galw amdano. Gallent hefyd ysgogi galw trwy greu cynhyrchion sy’n cyd-fynd â nwyddau neu wasanaethau llwyddiannus eraill, ee crysau-T yn arddangos cymeriadau o sioe neu ffilm lwyddiannus
Bodloni galw
Os yw galw yn cael ei adnabod yna mae’n bwysig bod y busnes yn gallu bodloni’r galw hwnnw. Er mwyn gwerthu nwyddau mae angen i fusnesau fodloni galw yn y ffordd orau. Efallai y bydd mwy nag un ffordd i fodloni galw ac yn aml, y busnes sy’n gallu gwneud hynny orau fydd yn ennill y blaen ar gwmnïau eraill.