Dylanwadau mewnol
Cost yr ymgyrch
Mae’n rhaid i fusnesau geisio ystyried cost ymgyrch farchnata yn nhermau faint o bobl y bydd yn eu cyrraedd ond hefyd fel cost absoliwt. Hynny yw, efallai bod busnes am hysbysebu ar y teledu a bod cost y pen yn isel am y bydd yn cyrraedd llawer o bobl ond efallai bod y gost ei hun yn ormod i’r busnes ei dalu.
Argaeledd cyllid
Mae argaeledd cyllid yn ffactor bwysig wrth farchnata nwydd yn enwedig os yw’r nwydd yn newydd. Yn yr achos hwn bydd y cwmni yn gwario arian ar farchnata heb y sicrwydd y bydd yn talu ar ei ôl. Mae’n gallu bod yn ddrud datblygu ymwybyddiaeth ynglŷn â nwydd neu wasanaeth newydd a gall gymryd tipyn o amser cyn bod y nwydd neu wasanaeth yn dechrau gwneud arian.
Arbenigedd staff
Mae’r math o ymgyrch farchnata y bydd y cwmni yn ei wneud yn dibynnu ar arbenigedd staff i ddefnyddio’r cyfryngau sydd ganddynt. Er enghraifft, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn fwyfwy pwysig wrth farchnata a chodi ymwybyddiaeth o nwyddau. Fodd bynnag, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn weddol newydd i rai busnesau, yn enwedig busnesau sydd wedi bod yn masnachu dros amser hir.
Maint a diwylliant y busnes
Yn gyffredinol bydd gan gwmnïau mawr y cyfleoedd a’r gallu i greu gweithgareddau marchnata sy’n eang eu cwmpas. Efallai bod ganddynt fwy o arian ond efallai hefyd y byddant yn gallu manteisio ar ddarbodion maint hysbysebu. Darbodion maint yw’r ffyrdd y mae cwmnïau mawr yn gallu arbed arian oherwydd eu maint. Er enghraifft, os yw cwmni Virgin Atlantic yn creu fideo i hysbysebu eu nwydd, fe fydd y fideo efallai yn ddrud ond mater eithaf hawdd byddai rhoi is-deitlau neu gapsiynau. Yn yr hysbyseb hon ar gyfer Chanel No5, does braidd dim geiriau o gwbl yn cael eu defnyddio heblaw am yr enw brand. Gall gael ei ddefnyddio yn llwyddiannus ar draws y bryd heb orfod newid dim.