Gwybodaeth a gynhyrchir gan feddalwedd ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn busnes
Systemau gwybodaeth rheoli
Mae rhaglenni gwybodaeth gyfrifiadurol yn bwysig iawn mewn busnes. Ceir nifer o fathau gwahanol o systemau cyfrifiadurol sy’n gallu helpu i reoli prosesau busnes amrywiol.
Er enghraifft,
- Systemau rheoli stoc
- Systemau rheoli adnoddau dynol
- Systemau ariannol a chyfrifo
- Systemau gwybodaeth myfyrwyr
…a llawer mwy, gan gynnwys systemau arbenigol ar gyfer busnesau penodol.
Rheoli prosiect
Mae prosiectau busnes yn gallu bod yn gymhleth gan gynnwys nifer o bobl, timoedd ac adnoddau. Mae angen sicrhau bod pawb yn gwybod beth sydd angen ei wneud a phryd, yn ogystal â sicrhau bod yr adnoddau cywir yn y llefydd cywir er mwyn i bobl allu gwneud eu gwaith. Gellir defnyddio systemau fel dadansoddiad rhwydwaith a siartiau Gantt er mwyn trefnu’r prosiect.
Cliciwch ar y penawdau isod i ddysgu mwy:
Dadansoddiad rhwydwaith a llwybrau critigol
Mae dadansoddiad rhwydwaith a llwybr critigol yn ffordd o ddarlunio’r prosesau a’r gweithgareddau ddylai ddigwydd er mwyn cwblhau prosiect. Mae’r dadansoddiad llwybr critigol yn ffordd o ychwanegu amseroedd i’r diagram rhwydwaith er mwyn gweld pa mor hir fydd tasgau’n ei gymryd a dadansoddi pa dasgau sy’n gritigol er mwyn i brosiect gael ei gwblhau yn brydlon.
Gallwch ddarllen mwy fan hyn:
Siartiau Gantt
Darllenwch y blog i ddysgu mwy am siartiau Gantt:
Offer ariannol
Mae angen i fusnesau wneud penderfyniadau ariannol.
Gellir defnyddio dulliau i helpu i wneud penderfyniadau ariannol hefyd, er enghraifft:
- Gwerth presennol net
- Llif arian disgowntiedig
- Cyfradd adennill mewnol
Gwerth presennol net
Mae hyn yn bwysig oherwydd mae swm o arian sy’n cael ei dderbyn yn y dyfodol yn werth llai na’r un swm o arian sy’n cael ei dderbyn heddiw. Mae hyn oherwydd cyfraddau llog ac oherwydd cyfraddau chwyddiant.
Gallwch gyfrifo gwerth presennol trwy ddefnyddio’r fformiwla isod:
Lle mae :
PV – Gwerth presennol
FV – Gwerth yn y dyfodol
r – Cyfradd Llog
t – Amser
Ond gallwch hefyd ddefnyddio tablau disgowntio.
Gan fod arian rydych yn ei dderbyn yn y dyfodol yn werth llai nag arian y cewch heddiw, defnyddir gwerth presennol net i werthuso a yw prosiect sy’n talu yn y dyfodol yn werth ei wneud.
Gwneir hyn drwy ddulliau a elwir yn llif arian disgowntiedig a Chyfradd Adennill Mewnol.
Gallwch ddysgu mwy fan hyn: