Technegau i ddadansoddi data yn effeithiol at ddibenion busnes – Defnyddio data
Defnyddio’r data
Mae’n bwysig defnyddio’r canlyniadau i ddod i gasgliadau dilys. Ambell waith bydd angen data pellach i esbonio’r canlyniadau.
Mesurau gwasgariad
Y gwasgariad yw pa mor bell, ar gyfartaledd, y mae gwerthoedd o’r cymedr.
Edrychwch ar y ddau set o ddata canlynol:
Set ddata A: 7, 3, 5, 5
Set ddata B: 10,1, 2, 7
Y cymedr ar gyfer y ddau set yw 5 (20÷4) ond gallwch weld bod y data yn tueddu i fod yn bellach o’r cymedr yn set ddata B nag yn set ddata A. Gallwch fesur y gwasgariad hwn drwy ddefnyddio gwyriad safonol.
Gellir gwneud hyn drwy dynnu pob rhif o’r cymedr i roi:
0, 0,-2, 2
5, -4, -3, 2
Yna eu sgwario a’u hadio:
0,0,4,4 = 8
25,16, 9, 4 = 54
Nawr eu rhannu gyda’r nifer o werthoedd:
8 rhannu 4 = 2
54 rhannu 4 = 13.5
Ac yn olaf mae angen cymryd ail isradd:
𝟐‾√ = 𝟐 = 1.4
𝟏𝟑‾‾‾√.𝟓 = 𝟏𝟑.𝟓 = 3.7
Mae rhifau llai yn dangos bod y data ar gyfartaledd yn agosach at y cymedr tra bod rhifau mwy yn dangos bod y data ar gyfartaledd yn bellach oddi wrth y cymedr.
Mae gan raglenni trin data fel Excel ffwythiannau yn rhan o’r rhaglen ar gyfer cyfrifo gwiriad safonol setiau data mawr.