Technegau i ddadansoddi data yn effeithiol at ddibenion busnes – Cyfrifo
Cyfrifo
Gallwch hefyd ddefnyddio chwarteli, canrannau a chyfernod cydberthyniad i ddadansoddi data.
Chwarteli
Mae chwarteli yn rhannu’r data yn 4 rhan. Gelwir y chwarteli yn Q1, Q2, Q3 a Q4.
Ar gyfer y data isod:
2, 5, 9, 7, 2, 4, 1, 5, 8, 10, 2, 8
Y cyfanswm yw 12 felly maint y chwarteli fydd 12 ÷ 4 = 3
1 | 2 | 2 | 2 | 4 | 5 | 5 | 7 | 8 | 8 | 9 | 10 |
Y chwartel cyntaf yw’r 3ydd rhif sef 2, yr ail chwartel yw 5, y trydydd chwartel yw 8 a’r 4ydd chwartel yw 10.
Canrannau
Mae canrannau’n debyg iawn i chwarteli ond mae’n rhannu’r data i mewn i 100 rhan gyfartal.
Cyfernod cydberthyniad
Mae hwn yn dangos faint o berthynas sydd rhwng dau newidyn. Ceir cydberthyniad positif (cyfernod cydberthyniad 0 i 1) pan fydd cynnydd/gostyngiad mewn un yn achosi cynnydd/gostyngiad yn y llall, e.e. gwerthiant uwch yn dilyn gwariant marchnata uwch. Ceir cydberthyniad negatif (cyfernod cydberthyniad rhwng 0 a -1) os yw’r cynnydd/gostyngiad mewn un newidyn yn achosi’r gwrthwyneb sef gostyngiad/cynnydd yn y llall, e.e. gwerthiant menig yn codi wrth i’r tymheredd ostwng.
Neu gallwch gael dim cydberthyniad (cyfernod cydberthyniad 0) pan fo’r newid mewn un newidyn yn cael dim effaith ar y llall, e.e. effaith codi pris caniau o Coke ar werthiant peli tennis.
Munud i feddwl
Allwch chi feddwl am enghreifftiau o newidynnau sy’n debygol o arddangos cydberthyniad positif, negatif a dim cydberthyniad?